Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion eu cyllideb ddrafft heddiw sy’n werth £15 biliwn.

Am y tro cyntaf mae’r gyllideb yn cynnwys cyfraddau a bandiau dros y dreth tirlenwi a’r dreth trafodion tir – dwy dreth sydd wedi disodli’r dreth stamp yng Nghymru. Fe fydd y cyfraddau newydd yn golygu y bydd trethi uwch ar gyfer tai dros £400,000.

Mae’r gyllideb hefyd yn cynnwys y cytundeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar â Phlaid Cymru a fydd yn “darparu sefydlogrwydd” i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Yn eu datganiad mae Llywodraeth Cymru’n egluro fod y gyllideb yn cael ei chyflwyno mewn “cyfnod o ansicrwydd ariannol parhaus” a hynny oherwydd ansicrwydd dyfodol cyllid o’r Undeb Ewropeaidd.

‘Cynlluniau refeniw’

Y prif gyhoeddiadau yw y bydd £230 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 2018-2019, a £220 miliwn yn ychwanegol yn 2019 – 2020.

Bydd £70 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros ddwy flynedd at wasanaeth gofal plant, a £10 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario i fynd i’r afael â digartrefedd bob blwyddyn.

Ni fydd toriadau i’r grant Cefnogi Pobl gyda £10m yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu ym mhob blwyddyn i gadw lefelau 2017-2018.

‘Cynlluniau cyfalaf’

O ran y cynlluniau cyfalaf dros y tair blynedd fe fydd £340 miliwn yn cael ei ryddhau fel rhan o fuddsoddiad o £1.4bn tuag at yr ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy.

Bydd £50 miliwn yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu cyfleusterau parcio a theithio a gorsaf drenau newydd yn Llanwern; £40m yn ychwanegol i gyflymu rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif; £90m yn ychwanegol ar gyfer rhaglen gyfalaf GIG Cymru.

Trethi

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid hefyd heddiw wedi cyhoeddi cyfraddau a bandiau newydd ar gyfer y dreth trafodiadau tir sy’n disodli treth dir y dreth stamp, a’r dreth gwarediadau tirlenwi sy’n disodli’r dreth dirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen.

O ganlyniad i’r cyfraddau preswyl newydd ar gyfer y dreth trafodiadau tir, ni fydd pobl sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yn talu unrhyw dreth o gwbl a bydd pob un sy’n prynu eiddo preswyl am gost hyd at £400,000 yn talu’r un faint o dreth neu lai na’r hyn sy’n cael ei dalu ar hyn o bryd.

Bydd cyfraddau safonol ac is y dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau’r un fath â chyfraddau’r dreth dirlenwi am y ddwy flynedd gyntaf, ond bydd cyfradd newydd ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi yn cael ei chyflwyno a’i phennu ar 150% o’r gyfradd safonol.

‘Carreg filltir’ 

“Dyma Gyllideb newydd i Gymru ac mae’n nodi carreg filltir bwysig arall yn ein taith ddatganoli wrth inni baratoi i gymryd y cyfrifoldeb dros godi trethi a benthyca o fis Ebrill ymlaen,” meddai Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid.

“Yn hytrach na nodi ein blaenoriaethau gwario refeniw a chyfalaf yn unig, y Gyllideb ddrafft hon yw’r gyntaf i amlinellu’r penderfyniadau rydyn ni wedi’u gwneud i godi cyfran o’n refeniw ein hunain i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.

“Wrth ddefnyddio’r pwerau newydd hyn, rydym wedi gallu cyflwyno cynlluniau treth flaengar ac arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn newid ymddygiadau ac yn sicrhau gwelliannau i’n holl gymunedau.”

Ceidwadwyr – ‘Tanwario’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo’r gyllideb o fod yn un “rhagweladwy”.

Wrth gyfeirio at Blaid Cymru a Llafur dywedodd Nick Ramsay, sy’n llefarydd i’r Ceidwadwyr ar Gyllid – “mae’r ddwy blaid wedi torri nifer o addewidion etholiad i wneud i hyn ddigwydd, ac nid yw’r gyllideb yn sôn am ymrwymiadau enwog Llafur ar daliadau sector cyhoeddus na ffioedd dysgu.

“Nid yw chwaith yn mynd i’r afael â blynyddoedd o danwario ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” meddai wedyn.