Mike Hedges
Byddai’n rhaid sicrhau bod trafodaethau priodol yn cael eu cynnal o flaen llaw, pe bai refferendwm dros annibyniaeth i Gymru yn cael ei chynnal.

Dyna yw safbwynt Aelod Cynulliad Llafur, fydd yn cyfrannu at ddigwyddiad cyntaf y grŵp ‘Llafur Dros Gymru Annibynnol’ yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener (Hydref 6).

Er bod Mike Hedges yn galw ei hun yn “agnostig” o ran annibyniaeth i Gymru, mae’n nodi bod refferendwm dros y mater yn “anochel ar ryw bwynt”.

Gan gyfeirio at “broblemau” refferendwm Brexit a chymhlethdodau’r broses o drafod dêl yr ymadawiad, mae Mike Hedges yn nodi pwysigrwydd “negodi yn gyntaf.”

“Rhaid sicrhau ein bod yn gwybod beth yr ydym ni’n pleidleisio drosti. [Dydyn ni ddim eisiau sefyllfa] lle mae emosiwn yn cymryd drosodd yn hytrach nag rhesymeg,” meddai wrth golwg360.

“A dw i’n credu mai dyna oedd un o’r problemau oedd gyda ni yn y refferendwm dros adael Ewrop. Doedd pethau heb gael eu trafod yn gyntaf, ac felly roedd pobol yn pleidleisio yn y tywyllwch ac mi roedd pobol yn addo pethau rydym bellach wedi darganfod i fod yn anghyraeddadwy.”

“Materion technegol”

Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe yn mynnu y byddai’n rhaid mynd i’r afael â “materion technegol” cyn cynnal refferendwm, ac mae’n tynnu sylw yn benodol at fater arian cyfredol  – currency.

“Pa arian fyddwn ni’n ei ddefnyddio [mewn Cymru annibynnol]?” meddai.

“Oherwydd os wnawn ni gadw’r bunt byddai’n rhaid defnyddio Banc Lloegr fel ein banc canolog. Ond wedyn ni fyddwn yn wlad annibynnol o ran arian ein hunain – dros gyfraddau llog ac ati.

“Y materion technegol yma sydd yn bwysig, a dyna’r pwynt dw i’n gobeithio gwneud [yn y drafodaeth ddydd Gwener].”