Neil McEvoy (Llun: Plaid Cymru)
Mae Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gwrthod tynnu baner Catalwnia i lawr o ffenest ei swyddfa ym Mae Caerdydd.

Esboniodd Neil McEvoy, sydd ar hyn o bryd wedi’i wahardd o grŵp Plaid Cymru, ei fod wedi cael gorchymyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i dynnu’r faner i lawr.

Ond dywedodd na fyddai’n gwneud hynny a’i fod wedi gofyn am eglurhad pellach pam na ddylai arddangos y faner.

Cyfeiriodd at sylwadau llefarydd ar ran y Cynulliad a ddywedodd wrtho mewn e-bost nad oedd arddangos y faner yn cyd-fynd â’r rheolau’n ymwneud â defnydd Aelodau Cynulliad o ffynonellau’r Cynulliad.

“Ond dyw e ddim yn bleidiol-wleidyddol, ni’n siarad am fynegiant o ddemocratiaeth,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360.

Ychwanegodd fod y faner yn adeilad Tŷ Hywel wedi bod yno ers tuag wythnos.

Tro pedol

Erbyn hyn mae Comisiwn y Cynulliad wedi gwneud tro pedol yn yr achos gan ganiatáu i Neil McEvoy arddangos y faner.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn – “rydym wedi adolygu’r sefyllfa ac wedi cysylltu â’r Aelod dan sylw i’w hysbysu y gall arddangos y faner”.