Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi cyhuddo Carwyn Jones o dreulio’r rhan fwyaf o’i amser yn ceisio rhannu’r Deyrnas Unedig ac yn honni bod ganddo “obsesiwn gyda grym”.

Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion bu Alun Cairns yn feirniadol o Brif Weinidog Cymru, gan gynghori ei blaid i beidio “datganoli ac anghofio” ond i “ddod ynghyd”  i gefnogi strategaeth Brexit Llywodraeth y DU.

Dywedodd Alun Cairns fod gan Llafur yng Nghymru “agenda” i geisio atal Brexit er bod y mwyafrif o bleidleiswyr yng Nghymru wedi cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2016.

“Fyddwn ni ddim yn ildio i bwysau i wneud penderfyniadau sydd er budd gwleidyddion yn hytrach na’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu,” meddai Alun Cairns wrth aelodau’r blaid.

Ychwanegodd: “Mae’n ymddangos ei fod e [Carwyn Jones] yn treulio’i amser yn gweithio gyda’r cenedlaetholwyr yn yr Alban er mwyn ceisio rhannu’r DU yn hytrach na gweithio er budd pobl ym mhob etholaeth.”

“Diffyg parch”

Ond wrth ymateb i’w araith, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Christina Rees AS bod Alun Cairns wedi dangos “diffyg parch” at Gymru.

“Ar bob cyfle, roedd wedi tanseilio Cymru, ac wedi ei gwneud hi’n glir mai ei flaenoriaeth yw amddiffyn y Prif Weinidog [Theresa May] yn hytrach na diogelu’r hyn sydd o fudd i Gymru.”