Mae aelod o staff yng nghaffi Pete’s Eats yn Llanberis wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n “gweini bwyd fel cath i gythraul” heddiw yn dilyn dryswch ddoe tros ei ddyfodol.

Roedd arwydd ar y ffenest yn awgrymu bod y caffi yn cau ei ddrysau am y tro olaf oherwydd “straen” y perchennog a’i staff oherwydd bod “gormod o broblemau sylfaenol”.

Ond fe gafodd arwydd arall ei osod yn ddiweddarach yn dweud “Doh!”, gan egluro na fyddai’r caffi’n cau wedi’r cyfan ac y byddai ar agor heddiw.

Dywedodd aelod o staff wrth golwg360: “Dydyn ni ddim yn cau, ac rydyn ni’n gweini brecwast yma ac yn mynd fel cath i gythraul.”

Ymddiheurodd yr aelod staff am “ddryswch mawr”, gan egluro bod y staff yn y tywyllwch ddoe hefyd.

Hanes y caffi

Mae Pete’s Eats yn disgrifio’i hun ar ei wefan fel “caffi sy’n bwydo’r dringwyr llwglyd niferus yn yr ardal”.

Cafodd ei agor yn 1978 gan Pete a Vicky Norton, dau ddringwr oedd eisiau creu awyrgylch cyfeillgar i ddringwyr oedd yn ymweld â’r ardal.

Cafodd yr adeilad ei ymestyn yn 2001 i greu lle i mwy o bobol, ac fe gafodd ystafelloedd newydd eu hychwanegu, gan gynnwys ystafell ddarllen, ystafell gyfrifiaduron, fflat â lle i 12 o bobol a chegin newydd sbon.

Mae’r ystafell ddarllen yn cynnwys casgliad o lyfrau am hanes dringo yn yr ardal, ac mae ymwelwyr o dramor yn cael eu hannog i ddefnyddio’r we i gyfathrebu â’u teuluoedd.