Mae disgwyl i’r nifer fwyaf erioed redeg Hanner Marathon Caerdydd eleni, gyda 25,000 o redwyr wedi cofrestru.

Bydd llawer yn rhedeg y 13.1 milltir dros elusen ac eraill dim ond ar gyfer y pleser o gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Cymru.

Wrth i’r brifddinas baratoi i groesawu’r rhedwyr a’r miloedd o wylwyr fydd yno yn cefnogi ddydd Sul, fe wnaeth golwg360 siarad â thri fydd yn cymryd rhan.

‘Awyrgylch gŵyl’

Yn wreiddiol daw Iestyn Wyn o Ynys Môn, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, a dyma’r ail dro yn olynol y bydd yn rhedeg y ras.

Y llynedd, fe wnaeth godi arian dros elusen Crohn’s and Colitis UK am ei fod yn dioddef o Colitis ei hun ond y tro hyn, mae’n gwneud er mwyn yr her… a’r mwynhad!

Mae’n cyfaddef nad yw wedi hyfforddi llawer ar gyfer rhedeg eleni.

 “Ro’n i’n meddwl ‘wel doedd o ddim mor ddrwg â hynny!’, felly wnes i gofrestru ac anghofio bod fi angen hyfforddi, ro’n i’n teimlo fy mod i dal yr un mor ffit ond dydw i ddim!” meddai.

“Ar y diwrnod, mae’r dorf yn gwneud cymaint o wahaniaeth, a dw i’n meddwl beth sy’n arbennig am Hanner Marathon Caerdydd ydy bod gennych chi, bob hyn a hyn o filltiroedd, pobol yn canu neu fandiau yn chwarae so mae yna deimlad o ŵyl i’r peth.

“Ac ar ôl i chi orffen, mae’r ymdeimlad yna’n rhedeg ar draws y strydoedd hefyd, mae siopau yn rhoi cynigion arbennig, mae llefydd bwyd yn rhoi bwyd am ddim neu glased o brosecco er enghraifft.

“So, dyna sydd ar fy meddwl i.. bod fi’n mynd i gael peint am ddim pan fydda’ i’n gorffen.

“Ro’n i’n hapus gyda fy amser i’r llynedd o 2:17, ond wedyn oherwydd bod fi heb hyfforddi chwarter cymaint â be’ dw i wedi gwneud llynedd… ‘sŵn i’n deud o dan dair awr, buaswn i’n hapus efo hynny.”

Codi arian i bobol ddigartref

Dyma ail hanner marathon Beca Lois o Gaerdydd hefyd, sy’n codi arian dros elusen The Wallich, sy’n helpu i daclo digartrefedd yn y brifddinas.

“Wnes i’r World Half Marathon [yng Nghaerdydd] llynedd a dyna oedd y tro cyntaf i fi wneud,” meddai.

“Wnes i traino loads  wnes i wneud e mewn tua 2 awr a 5 munud a ro’n i’n really hapus da fe ond eleni fi ‘di bod yn lot fwy casual achos bod gen i lai o amser i traino a fi’n codi arian, hwnna yw’r prif bwrpas i fod yn onest.

“Gobeithio bydd ysbryd y ras yn helpu fi… dw i’n codi arian ar gyfer The Wallich, sy’n gwneud gwaith gyda phobol ddigartref yng Nghymru. Dwi’n gweld hi’n broblem fawr iawn [digartrefedd], mae fel petai wedi dyblu eleni.”

“Llwyddo ar y diwedd”

Bydd Hanna Merrigan o Fancffosfelen yn rhedeg ei thrydedd hanner marathon dydd Sul ond dyma’r cyntaf yng Nghaerdydd.

“Dwi’n meddwl mai’r ymdeimlad o lwyddo ar ddiwedd ras sy’n fy nenu nôl i redeg bob blwyddyn yn bennaf, gosod her i fy hun a chyflawni!” meddai.

 “Dyma’r tro cyntaf i mi redeg hanner marathon Caerdydd ond dwi wedi gwneud hanner marathon Llanelli ac Abertawe eleni, fy adduned blwyddyn newydd oedd rhedeg hanner marathon!

“Gorffen sy’n bwysig i mi ond yn amlwg byddwn i wrth fy modd yn curo’r amser ges i yn yr hanner marathon diwethaf [sef] 2 awr 26 yn Llanelli a 2 awr 16 yn Abertawe.”