Neil Hamilton
Y prynhawn yma bydd aelodau UKIP yn ethol pedwerydd arweinydd y blaid o fewn blwyddyn.
Mae saith ceffyl yn y ras ond ffefryn y bwcis yw Gwyddeles asgell-dde eithafol, gwrth-Islamaidd.
Pe bai Anne Marie Waters yn cael ei hethol, mae yna ddarogan mai dyma fydd dechrau’r diwedd i UKIP, gydag aelodau’r grŵp yn y Cynulliad a hyd yn oed y cyn-arweinydd, Nigel Farage, yn dweud y byddan nhw’n gadael.
Ond nid felly y mae Neil Hamilton, arweinydd UKIP Cymru, yn gweld pethau.
Mae e’n dweud bod gan Anne Marie Waters gymaint o hawl i sefyll am yr arweinyddiaeth ag unrhyw aelod arall, er nad oedd yn fodlon dweud pwy oedd e yn gefnogi.
Dywedodd wrth golwg360 y bydd yr Aelodau Cynulliad UKIP yn cyfarfod wedi cyhoeddi’r arweinydd newydd i drafod y ffordd ymlaen, cyn ychwanegu ei fod am i’r blaid yng Nghymru gael mwy o annibyniaeth.
“Gweld ein hunain yn annibynnol”
A yw Neil Hamilton felly’n gweld dyfodol mwy disglair i UKIP Cymru pe bai hi’n mynd yn siop siafins i’r blaid ar lefel Brydeinig?
“O’m rhan ni yng Nghymru, rydym ni [UKIP Cymru] yn gweld ein hunain yn annibynnol ta beth achos mae gennym ni weinyddiaeth wahanol yn y Senedd ac rydym yn sefydlu ein sefydliad annibynnol ein hunan yng Nghymru.”
Ychwanegodd y byddai’r grŵp yn y Cynulliad, sy’n cynnwys pum aelod, yn cwrdd wedi’r cyhoeddiad a phenderfynu “sut ry’n ni’n symud ymlaen”.
“Dw i ddim yn rhagweld ni’n sefydlu plaid gwbl annibynnol ond dw i eisoes wedi dweud wrth Steve Crowther, arweinydd dros dro UKIP, bod yn rhaid i Gymru gael hunaniaeth ar wahân yn y dyfodol,” meddai.
“Yn enwedig ar ôl i’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd ddiflannu mewn ychydig dros 18 mis, achos y grŵp yn y Cynulliad fydd prif grŵp UKIP o bobol etholedig, felly dylwn ni gael y parch rydym yn haeddu.
“Dyna fy nod i – dw i eisiau cael datganoli yn UKIP.”
Edrych fel ‘plaid gwrth-Islam’
Mae arweinydd UKIP Cymru yn pryderu y gallai UKIP gael ei gweld fel plaid un polisi – sef gwrthwynebu Islam – pe bai Anne Marie Waters yn dod yn arweinydd.
“Yng Nghymru, nid dyna’r achos,” meddai Neil Hamilton.
“Bob dydd yn y Cynulliad, rydym yn canolbwyntio ar amrywiaeth o faterion,” meddai.
“Wedi Brexit, mae’n rhaid i ni fod yn blaid wleidyddol ganolog sydd ag amrywiaeth eang o bolisïau, ac nad ydyn ni’n gor-bwysleisio un ohonyn nhw.”