Llun gwres o adeilad gwyrdd (ar y dde) ac adeilad traddodiadol (Passivhaus Institut GNU 1.2)
Fe fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ystyried a oes angen rheolau i fynnu bod pob tŷ newydd yng Nghymru yn cyrraedd targedi arbed ynni.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cael ei lansio heddiw gyda’r bwriad o weld a yw tai Cymru’n ddigon gwyrdd.

Fe fydd hefyd yn ystyried a oes modd datblygu tai sy’n cynhyrchu mwy o ynni nag y maen nhw’n ei ddefnyddio.

Tai isel eu carbon

“Mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai datblygu tai helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac effeithiau carbon yng Nghymru,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad, Mike Hedges.

“Byddwn yn archwilio a yw’n bosibl adeiladu cartrefi fforddiadwy, carbon isel, ar raddfa eang – cartrefi a fydd yn cynhyrchu ynni glân ac yn ei allforio’n ôl i’r grid.

“Byddwn hefyd yn ystyried y canlyniadau i Gymru os na fydd yn cyrraedd ei thargedau lleihau carbon  ei hun.”