Llanrwst
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Fusnes a Chynadledda Glasdir yn Llanrwst nos Iau, Hydref 12, i groesawu Eisteddfod Genedlaethol i sir Conwy yn 2019.

Bydd gwahoddiad yn cael ei estyn i drigolion y fro i gymryd rhan yn y paratoadau a’r trefniadau ar gyfer wythnos yr Eisteddfod o Awst 2-10.

Croeso cynnes

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod Elen Elis mewn datganiad fod “cefnogaeth leol yn eithriadol o bwysig i lwyddiant yr Eisteddfod” a’r gwaith ar lawr gwlad “yn rhan ganolog o’r prosiect”.

“Mae’n flynyddoedd lawer ers i ni ymweld ag ardal Sir Conwy, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â’r ŵyl yn ôl i ardal sydd bob amser wedi rhoi croeso cynnes iawn i’r Eisteddfod.

“Mae’r gweithgareddau cymunedol a’r gwaith allymestyn dros y ddwy flynedd nesaf yn greiddiol i amcanion yr Eisteddfod, a’r gobaith yw y gallwn ddenu criw mawr o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn hen ffrindiau ac wynebau newydd, i fod yn rhan o’r tîm y tro hwn.

“Bydd y gwaith yn cychwyn bron yn syth, gan y byddwn yn dechrau rhoi’r Rhestr Testunau at ei gilydd o fewn ychydig wythnosau ac yn creu pwyllgorau apêl lleol ar draws y dalgylch i ddechrau ar y gwaith o drefnu gweithgareddau a chodi arian.

“Dewch draw atom i Glasdir i glywed mwy am y prosiect, soniwch wrth eich ffrindiau a’ch cydweithwyr, a helpwch ni i greu tîm cryf gyda phobl o bob oed a chefndir sy’n awyddus i weld y Gymraeg yn ffynnu a’r Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth yn lleol a chenedlaethol.”

Fe fydd y cyfarfod yn dechrau am 7yh.