Mae cyngor cymunedol yn Sir Gaerfyrddin wedi mynegi pryderon am gynlluniau i godi cwt ar gyfer 32,000 o gywion ieir.

Bwriad fferm Godre Garreg, yw adeiladu cwt 7m o uchder ger pentref Llangadog, fydd yn gartref i’r cywion rhydd.

Er bod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gâr yn argymell cymeradwyo’r cwt ag amodau, mae 1,300 o bobl wedi arwyddo deiseb a 79 o bobol wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r cyngor.

Mae Cyngor Cymunedol Llangadog yn unfrydol yn erbyn y cynllun ac yn pryderu y byddai’r adeilad yn rhy agos at fyngalo a chae sydd yn rhentu carafanau.

“Llawer rhy agos”

“Mi ddywedais i yng nghyfarfod y gymuned mod i ddim yn hapus ynglŷn â’r peth,” meddai Wyn Jones o Gyngor Cymunedol Llangadog, wrth golwg360.

“Mae’n llawer rhy agos i safle lle mae pobol eraill yn byw. Dyna’r unig beth yr oeddwn i yn ei erbyn. Mae’n tynnu lawr gwerth tai [cyfagos]. Mae o fewn hanner canllath i le mae pobol yn byw.”

“Dylai’r cwt gael ei symud o leiaf canllath yn bellach i ffwrdd o’r pentref. Gallan nhw ddodi e’n agosach i fferm eu hunain.”

Mae Wyn Jones yn nodi na fyddai sŵn ac arogl y sied yn broblem ac yn cyfeirio at sied debyg sydd eisoes yn bodoli ar fferm rhwng Llangadog a Llanymddyfri.

Y Cyngor

Bydd pwyllgor y Cyngor yn ymweld â’r safle yn Llangadog ar Hydref 3 cyn iddyn nhw bleidleisio ar y cynlluniau.

Ymgynghori

“Pan rydyn ni’n gwneud penderfyniad, mae’n rhaid i’r pwyllgor cynllunio ystyried ystod o ffactorau, gan gynnwys ymatebion a gwrthwynebiadau statudol gan bobol sy’n cael eu hymgynghori,” meddai Pennaeth cynllunio’r cyngor, Llinos Quelch.

“Mae gan aelodau gyfle i edrych ar y ffeithiau sydd yn cael eu harddangos iddyn nhw – trwy ymweld â’r safle yn yr achos yma – cyn cyrraedd penderfyniad. Nid yw’n briodol ar hyn o bryd, ein bod yn rhoi sylw am gais sydd heb ei drafod gan y pwyllgor.”