Mae 11 o ddynion – gan gynnwys dau o dde Cymru, wedi cael eu harestio gan swyddogion gwrth-frawychiaeth yn dilyn ymchwiliad i’r grŵp eithafol adain dde, National Action, sydd wedi’i wahardd.

Mae chwech o’r dynion yn dod o Ogledd Ddwyrain Lloegr gan gynnwys un dyn sydd yn y carchar, dau o Abertawe, dau o Orllewin Swydd Efrog ac un o ardal Wiltshire.

Maen nhw rhwng 22 a 35 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion bod swyddogion gwrth-frawychiaeth Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Lloegr, uned gwrth-frawychiaeth Cymru, a Heddlu Wiltshire, wedi arestio’r dynion.