Llun: PA
Mae byrddau iechyd yn parhau i wynebu problemau o ran rheoli heintiau, cadw cofnodion a chadw trefn ar feddyginiaethau.

Dyna gasgliad adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), sy’n crynhoi canfyddiadau arolygiadau yn ystod 2016-17.

Cafodd 16 arolygiad eu cynnal gan y corff mewn saith bwrdd iechyd, gan ymweld ag 20 ysbyty a chyfanswm o 27 ward.

Mae’r adroddiad yn derbyn fod profiadau cleifion yn “gadarnhaol” a bod byrddau iechyd yn gosod “pwyslais sylweddol” ar gyflenwi gofal diogel ac effeithiol.

Er hynny mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sawl maes lle mae angen gwella gan gynnwys agweddau tuag at rheoli meddyginiaethau a’r defnydd o fandiau adnabod ar arddyrnau cleifion.

“Materion hirdymor”

“Mae ein hadroddiad yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad staff sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai Prif Weithredwr AGIC, Dr Kate Chamberlain.

“Er bod gan lawer o gleifion brofiad cadarnhaol o ofal ysbyty’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae angen mwy o waith i fynd i’r afael â nifer o faterion hirdymor sy’n tanseilio’r broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol.”

“Lle i wella”

“Rydym yn croesawu adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy’n  dangos bod cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Er hynny, mae lle i wella, ac rydym yn disgwyl i sefydliadau’r GIG weithredu’n sydyn ac yn gadarn i fynd i’r afael â chasgliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.”