Carwyn Jones (Llun: PA)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar y Blaid Lafur yng Nghymru a’r blaid yn San Steffan i “gydweithio” wrth “frwydro Brexit.”

Yn ei araith yng nghynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn Brighton, dywedodd Carwyn Jones fod angen “cydweithio yn fwy nag erioed” a hynny wrth feirniadu polisïau Theresa May a’i chabinet o ran Brexit.

Dywedodd fod angen “brwydro” yn erbyn Brexit caled ynghyd ag yn erbyn ymgais y Ceidwadwyr “i gipio pwerau” yn rhan o Fil Diddymu’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfeiriodd at “hyder” Cymru a hithau’n ugain mlynedd ers y refferendwm datganoli gan ddweud fod angen “cydweithio” o ran Brexit.

Beirniadu diffyg pleidlais Brexit

Mae disgwyl i’r gynhadledd barhau tan ddydd Mercher (Medi 27) pan fydd yr arweinydd, Jeremy Corbyn, yn traddodi ei araith.

Er hyn mae nifer o’r aelodau wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio â chynnal dadl na phleidlais gyffredinol ar Brexit.

Yn hytrach, mae’r blaid wedi penderfynu canolbwyntio ar y pynciau trafod – Grenfell, gwasanaethau rheilffordd, buddsoddiad a thwf, cyflogau sector cyhoeddus, hawliau gweithwyr, y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Golyga hyn na fydd pleidlais ar faterion dadleuol gan gynnwys aelodaeth o’r Farchnad Sengl yn rhan o’r gynhadledd yr wythnos hon.