Mae dynes 44 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a beic modur ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw’n dilyn y digwyddiad am oddeutu 12.35pm heddiw.
Fe fu fan Mercedes mewn gwrthdrawiad â’r beic Suzuki oedd yn teithio tua’r de.
Aeth yr ambiwlans awyr i leoliad y gwrthdrawiad, ac roedd y ffordd ynghau am nifer o oriau.
Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.
Mae teulu’r ddynes a’r crwner wedi cael gwybod.