Mae’r newyddiadurwr, darlithydd ac awdur Ifan Morgan Jones wedi croesawu cynllun gan Gyngor Sir Ceredigion i atgoffa perchnogion tai o bwysigrwydd yr enwau Cymraeg ar eu cartrefi.

Yn ôl y cynllun, fe fydd y Cyngor yn anfon llythyr at unrhyw un sy’n bwriadu newid enw eu tŷ o enw Cymraeg i enw Saesneg – yn enwedig pan fo enw hanesyddol ar y tŷ – neu unrhyw un sy’n codi tŷ newydd sbon.

Bydd y llythyr yn eu hatgoffa o bwysigrwydd yr enw, gan ofyn i berchnogion a ydyn nhw’n siŵr eu bod nhw eisiau newid yr enw.

Ond ni fydd y Cyngor yn eu gorfodi i gadw’r enw Cymraeg, a bydd gan berchnogion ddeng niwrnod i ystyried newid yr enw – a nhw, ac nid y Cyngor, fydd yn cael gwneud y penderfyniad terfynol.

Ceisiadau

Yn 2016, derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion 93 o geisiadau gan berchnogion oedd yn dymuno rhoi enw Cymraeg ar eu cartrefi, a dim ond 17 yn Saesneg.

Derbyniodd y Cyngor 28 o geisiau i newid enw Saesneg i enw Cymraeg, a saith o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Ifan Morgan Jones

Symudodd Ifan Morgan Jones, ei wraig Llinos a’u tri o blant i Groeslan ger Llandysul fis Mai, gan newid enw’r tŷ o ‘The Gables’ i ‘Llys Ythan’.

Roedd hynny, meddai wrth golwg360, am fod afon Ythan yn llifo ger eu cartref newydd.

“Gath y tŷ ei adeiladu tua’r flwyddyn 2000, ffor ’na. Oedden ni’n ymwybodol fod Cyngor Ceredigion yn annog pobol i newid enw cartrefi Saesneg neu cadw enw cartrefi Cymraeg a wnaethon ni feddwl, “Oes ’na enw mwy Cymreigaidd allen ni alw’r tŷ?”

“Wnaethon ni benderfynu ei alw fo’n Llys Ythan wedyn, ar ôl yr afon sy’n llifo heibio’r tŷ.”

Pwysigrwydd hanesyddol

Yn ôl Ifan Morgan Jones, mae’n bwysig diogelu treftadaeth Gymraeg Ceredigion.

“Mae’n braf, os ydi pobol yn symud i’r tai yma, eu bod nhw’n cadw’r enw Cymraeg ac os oes ’na ddim enw Cymraeg, bo nhw’n ei roi arno fo.”

Ond dydy e “ddim yn gweld dim bai” ar bobol sy’n symud i’r ardal heb fod ganddyn nhw ymwybyddiaeth o Gymreictod yr ardal, ac mae’n credu y gall polisi’r Cyngor godi mwy o ymwybyddiaeth ymhlith pobol sy’n symud i’r ardal o’r tu allan.

“O leia’ wedyn ar ôl symud yma, maen nhw’n dod yn ymwybodol o hynny a falle bod y weithdrefn sydd gan Gyngor Ceredigion rwan o yrru llythyr at bobol i’w hatgoffa nhw bod hi’n ardal Gymraeg a bo nhw’n hoffi cynnal enwau Cymraeg, yn gwneud gwahaniaeth i benderfyniad pobol a ydyn nhw’n mynd i gadw’r enwau Cymraeg ar eu tai.”

Hiliol?

Mae’r hanes wedi’i gynnwys mewn erthygl ar wefan yr Express, lle mae nifer o bobol wedi beirniadu polisi Cyngor Sir Ceredigion am fod yn “hiliol”.

Ond “nonsens” yw hynny, yn ôl Ifan Morgan Jones, sy’n pwysleisio mai gofyn i bobol ystyried newid enw eu cartref y mae’r Cyngor Sir, ac nid eu gorfodi.

“Os oes mwy nag un tŷ yn yr ardal efo’r un enw, maen nhw’n gofyn i bobol ddewis enw gwahanol. Mae angen gofyn i bob cyngor am yr hawl i newid enw tŷ. Nhw sy’n gorfod ei newid o ar system ganolog wedyn fel bod pawb yn gwybo fod enw’r tŷ yn bodoli.

“Yr unig beth mae Cyngor Ceredigion yn ei wneud yn wahanol ydi os ydi rhywun yn newid enw’r ty o’r Gymraeg i’r Saesneg, maen nhw’n gyrru llythyr yn gofyn iddyn nhw os ydyn nhw’n siwr bo nhw eisiau gwneud hynny. Os ydi pobol yn dal eisiau bwrw ymlaen, maen nhw jyst yn caniatau iddyn nhw wneud hynny fel pob cyngor arall.

“Di o’n amlwg ddim yn hiliol. Di iaith ddim yn fater o hil, i wneud un pwynt hollol amlwg. Mae’n hollol stiwpid ei alw fo’n hiliol. Mae ei alw fo’n hiliol yn hollol hurt, yn fy marn i.”

‘Ddim yn addas i bob ardal’

Tra ei fod yn croesawu’r cynllun yng Ngheredigion, mae Ifan Morgan Jones yn dweud na fyddai’n addas ym mhob ardal yng Nghymru.

“Falle mewn rhai ardaloedd, fyddai cynllun fel ’ma ddim yn addas, er enghraifft tasech chi’n byw yn Ne Sir Benfro lle mae’r diwylliant yn hanesyddol wedi bod yn wahanol, falle sa fo ddim yn addas gyrru llythyr yn gofyn i bobol newid enwau eu tai nhw i’r Saesneg.

“Mae ’na lot o enwau hanesyddol Saesneg a’r Ffrangeg yna. Mae’n bwysig fod gan bob ardal bolisi gwahanol ar gyfer eu hardaloedd nhw ond mae’n bwysig fod y polisi hwn yn iawn i Geredigion.”