Mae cryn oedi i deithwyr yn y de heddiw ar ôl i dwnnel Brynglas gael ei gau i gyfeiriad y dwyrain.

Cafodd ei gau neithiwr, a fydd e ddim ar agor eto tan 6 o’r gloch bore fory.

Mae oedi hir ar yr M4 rhwng cyffordd 27 (Highcross) a chyffordd 26 (Ffordd Malpas), a thraffig wedi’i ddargyfeirio ar hyd yr A48 wrth i’r gwaith o ddiweddaru systemau mecanyddol a thrydanol y twnnel barhau.

Mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn y gwanwyn.

Trenau

Mae oedi i deithwyr ar drenau heddiw hefyd.

Mae bysus wedi cael eu trefnu yn lle trenau rhwng Casnewydd a Chaerdydd tan 1 o’r gloch y prynhawn yma ac ar ôl hynny, fe fydd llai o drenau nag arfer rhwng y ddwy ddinas tan Hydref 29.

Fe fydd trenau cyflymdra uchel First Great Western yn dechrau a gorffen yng Nghasnewydd ac fe fyddan nhw ar gael yn ddi-stop i Lundain ar hyd cledrau gwahanol, gan ychwanegu 40 munud at y daith arferol.

Bydd bysus ar gael rhwng Abertawe a Chaerdydd, a hefyd rhwng Parkway Bryste, Caerdydd a Chasnewydd ar gyfer teithiau o Harbwr Portsmouth a Taunton.

Mae Arriva Cymru wedi cynghori teithwyr i edrych ar eu gwefan cyn teithio.