Mae pedwar o bobol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 toc cyn canol nos neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Comins-coch ger Machynlleth am oddeutu 11.50pm.

Bu’n rhaid i’r gwasanaeth tân dynnu un person o gar, a thri o bobol o gerbyd arall.

Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Glantwymyn a chyffordd y B4518.