Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod cŵn sy’n ymosod ar dda byw yn broblem gynyddol yng nghefn gwlad Cymru.
Fe aeth cynrychiolaeth o’r mudiad i Lundain i siarad â grŵp o Aelodau Seneddol o bob plaid ar les anifeiliaid er mwyn canfod y ffordd orau o daclo’r broblem.
Yn ôl yr undeb ffermwyr, mae angen cael gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a chadw cofnod canolog o nifer yr ymosodiadau.
Galwodd y mudiad hefyd am reoliadau a mesurau gorfodi llymach ar bobol sy’n gadael eu cŵn yn rhydd mewn mannau gwledig, os yw eu hanifail yn ymosod ar anifail fferm.
Colli ‘degau o filoedd o bunnoedd’
“Yn anffodus, ac er gwaethaf buddsoddiad sylweddol yn y diwydiant, nid yw’r cyhoedd yn llwyr ymwybodol o allu eu cŵn i ymosod, anafu neu ladd da byw,” meddai Elwyn Probert, is gadeirydd Pwyllgor Da Byw Undeb Amaethwyr Cymru.
“Hefyd, ar hyn o bryd nid oes cofnod canolog o ymosodiadau cŵn ar dda byw, sy’n golygu bod yr union effaith yn parhau i fod yn anhysbys ac mae’n debyg nid yw llawer o achosion yn gweld golau dydd.”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod ffermwyr yn gallu colli degau o filoedd o bunnoedd os byddan nhw’n colli stoc byw o ganlyniad i’r ymosodiadau hyn, gyda rhai ffermwyr hyd yn oed yn wynebu colli eu busnes.
“Mae colledion busnes yn cynnwys colli stoc, cynhyrchu’n lleihau oherwydd straen, erthyliadau a cholli arian yn stoc y dyfodol. Gall y costau hyn fod yn sylweddol ar y cyd a chostau yswiriant, biliau milfeddygol a gwaredu carcasau.
Dywed yr undeb eu bod yn annog pobol i gadw eu cŵn ar dennyn wrth ymyl da byw.