Campws Llanbedr Pont Steffan (Llun oddi ar wefan Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant)
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cefnu ar gynllun i godi tâl am drwyddedau parcio i’w myfyrwyr – a hynny wedi i ddeiseb gyda 1,500 o enwau arni gael ei chyflwyno i’r awdurdodau.

Roedd y brifysgol yn ystyried cynllun a fyddai wedi golygu byddai’n rhaid i fyfyrwyr dalu £160 am drwyddedau – a £200 ar gyfer myfyrwyr sydd yn byw ar un o’r campysau yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe.

Ond mae’r brifysgol wedi gwneud tro pedol yn sgil deiseb a gafodd ei harwyddo gan dros 1,500 o bobol, yn galw am ddiddymu’r system a gafodd ei chyflwyno gyntaf y llynedd.

Yn dilyn eu cyfarfod â’r brifysgol ddydd Mawrth yr wythnos hon (Medi 19), mae’r Undeb Myfyrwyr wedi croesawu’r penderfyniad.

“Positif iawn”

 “R’yn ni’n hapus na fydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu am y drwydded,” meddai Josh Whale, Llywydd Campws Llanbedr Pont Steffan, wrth golwg360. “Ond, r’yn ni’n cydnabod bod parcio ar rhai campysau yn anodd, ac mae angen rheoli’r system oherwydd dyw pawb ddim yn gallu cael lle i barcio.

“Cawsom gyfarfod positif iawn â’r brifysgol ac maen nhw wedi gwrando ar bryderon gwnaethom ni godi mewn llythyr. Maen nhw wedi cyfleu parodrwydd i gydweithio â ni er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yma dros y flwyddyn nesaf.”

Trefniadau newydd

Nod y cynllun  trwyddedau oedd mynd i’r afael â’r diffyg lle parcio ar nifer o gampysau’r brifysgol, ac mae disgwyl y bydd trefniadau newydd yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach heddiw.

Mae’r brifysgol yn ystyried cyflwyno parthau penodol i fyfyrwyr yng nghampysau Abertawe a Chaerfyrddin – lle mae argaeledd llefydd parcio ar ei waethaf.

Yng Nghaerfyrddin y llynedd mi wnaeth 2,000 o fyfyrwyr a staff ddanfon ceisiadau am drwyddedau parcio, er mai dim ond 400 lle parcio sydd ar y campws hwnnw.

Mae cyflwyniad llefydd parcio oddi ar y campysau, sustem parcio a thalu di-dâl, a sustem talu ac arddangos hefyd yn bosibiliadau. 

Ymateb y brifysgol

Mae llefarydd ar ran Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant wedi ymateb trwy nodi eu bod yn bwriadu cyflwyno system barcio newydd ynghyd â mesurau eraill i leddfu’r broblem.

“Rydym wedi cyflwyno system barcio newydd ynghyd â nifer o fesuriadau i liniaru tagfeydd, yn arbennig ar y campysau hynny lle mae’r galw yn uwch o dipyn na’r nifer o lefydd sydd ar gael. Bydd y system newydd yn berthnasol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr i’n campysau.

“Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gydag Undeb y Myfyrwyr, fodd bynnag, rydym wedi penderfynu na fyddwn yn codi tâl am drwyddedau parcio i fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon tra byddwn yn parhau i ymgysylltu ar y mater,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Mae’r Brifysgol, fodd bynnag, yn parhau i annog teithio cynaliadwy gan gynnwys rhannu ceir, trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â’r defnydd o wasanaethau parcio a theithio pan fyddant ar gael.”