Gallai ffermwyr a thirfeddianwyr y dyfodol orfod codi mastiau ffonau symudol ar eu tir er mwyn derbyn cymorthdaliadau.

Daw hyn wrth i Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru ar sut i gysylltu’r 4% yng Nghymru sydd heb gyswllt band-eang.

Yn ôl Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor ac Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn, mae cysylltiad band-eang a ffôn symudol yn “wasanaeth hanfodol – fel trydan”.

Mae’r adroddiad yn awgrymu y dylai pobol sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r cysylltiad yn wan fod yn rhan o’r trafodaethau i ganfod datrysiad.

Seilwaith digidol 

“Er bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer band eang, Cyflymu Cymru, a gyflwynwyd gyda BT, wedi cysylltu nifer fawr o bobol, mae ardaloedd o hyd nad yw wedi llwyddo i’w cyrraedd, ac mae’r un peth yn wir yn achos ffonau symudol,” meddai Russell George.

“Bydd ein hargymhellion yn cynorthwyo Cymru i ddatblygu seilwaith digidol sydd mor gyflym ac mor ddibynadwy â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Argymhellion eraill 

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys sefydlu cynllun ecwiti neu grant ad-daladwy i weithredwyr bach lenwi’r bylchau yn y rhwydwaith band eang.

Maen nhw hefyd yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r drefn gynllunio wrth osod mastiau telathrebu sy’n gwasanaethu ardal ddaearyddol ehangach.

Yn ogystal, dylai OFCOM ddefnyddio ei holl bwerau i sicrhau signal ar gyfer ffonau symudol dros 100% o’r wlad, a dylai hyn fod yn amod lleiaf mewn arwerthiannau ar gyfer yr hawl i drosglwyddo yn y dyfodol.