Pont Britannia, Ynys Mon
Mae angen “codi pontydd” rhwng y gogledd a’r de, yn ôl Aelod Cynulliad Ceidwadol dros ranbarth y gogledd.

Daw sylwadau Mark Isherwood wedi i Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen, ddweud y dylai Aelodau Cynulliad gynnal rai o’u cyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau yn y gogledd bob hyn a hyn.

Ond mae Mark Isherwood yn ymhelaethu nad Aelodau Cynulliad sydd ar fai am “ynysu” cymunedau’r gogledd ond yn hytrach “y Llywodraeth Lafur”, meddai.

“Roedd datganoli i fod i ddod â’r grym penderfyniadau yn nes at y bobol, ond mae’r bwlch rhwng Ynys Môn a Chaerdydd mor fawr ag erioed,” meddai Mark Isherwood.

‘Gweinidog i ogledd Cymru’

Esboniodd Mark Isherwood ei fod wedi gwrthwynebu cael gwared ar bwyllgorau rhanbarthol ac am hynny wedi “cadeirio’n aml gyfarfodydd rhyngbleidiol i lenwi’r bwlch maen nhw wedi’u gadael ar eu hôl.”

A hithau’n ugain mlynedd ers y refferendwm o blaid datganoli yn 1997, dywedodd fod angen “sedd wrth fwrdd y cabinet” ar ogledd Cymru yn ogystal â rôl Gweinidog.

Dywedodd y byddai hynny’n “sicrhau bod y rhan hwn o Gymru yn gadarn ym meddylfryd y llywodraeth.”