Catrin Dafydd (Llun: cyfrif twitter)
Mae nofel ddiweddara’r awdures Catrin Dafydd, sydd wedi’i gosod yn y dyfodol, yn “codi sawl cwestiwn” am sefyllfa Cymru.

Dros y penwythnos fe gafodd Gwales ei lansio yn ystod yr ŵyl annibyniaeth yng Nghaerdydd, sef #IndyFest.

Mae’r awdures, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, hefyd wedi cynnal lansiadau yn y Radur er budd Apêl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018; a nos Iau fe fydd yn cynnal lansiad arall yng Nghaerfyrddin.

“Mae lansiadau yn gyfle i siarad am y nofel, ond mae hefyd yn gyfle i gynnal deialog cenedlaethol,” meddai Catrin Dafydd wrth golwg360.

“Dw i’n edrych ymlaen at y lansiad yng Nghaerfyrddin, achos mae llawer ohoni wedi’i seilio yn y dref.”

‘Cwestiynau mawr’

Prif gymeriad y nofel yw ‘Brynach Yang’, ac mae Catrin Dafydd yn esbonio fod rhyfel yn torri rhwng China â’r gorllewin gyda chwestiynau’n codi am “ymateb a thwf adain dde.”

“Mae sgwrs eithaf agored yn y nofel rhwng y cymeriadau, yr awdur a’r darllenydd am y math o Gymru sy’n mynd i fod yn y dyfodol, ac sy’n bod heddiw,” meddai.

“Mae yna gwestiynau mawr o ran dosbarthiadau a sefyllfa ein democratiaeth.”

Mi fydd y lansiad yng Nghaerfyrddin yn cael ei gynnal yng Nghaffi Iechyd Da am 6.30yh nos Iau (Medi 21) yng nghwmni’r golygydd Meleri Wyn James a’r band Adwaith.