Baw llygod mawr ar lawr y siop.
Mae siop ym Mhowys oedd yn gartref i bla o lygod mawr wedi cael dirwy o £40,000.
Ymddangosodd First Stop Limited o’r Trallwng yn Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher gan bledio’n euog i ddeng trosedd hylendid bwyd.
Rhoddodd Ynadon ddirwy o £40,000 iddyn nhw am 13 o droseddau, a bydd yn rhaid iddyn nhw dalu £3,000 mewn costau erlyn a thâl ychwanegol o £170.
Pla o lygod
Yn ystod ymweliad swyddogion â’r busnes yn Nhachwedd 2016, daeth i’r amlwg bod pla o lygod mawr yn y siop, a bod staff y siop yn ymwybodol o hyn.
Oherwydd problemau gan gynnwys baw llygod mawr ar hyd y lloriau, cafodd y siop ei chau gan swyddogion y cyngor sir.
Wedi i staff ddelio â’r pla, cafodd y siop ei hailagor gyda sgôr hylendid o ‘0’. Er hynny methodd y cwmni ag arddangos y sticer yn iawn, a gwrthodon nhw dalu dirwy.
Dyletswydd busnesau
“Dylai pawb sy’n gwerthu a gwneud bwyd i’r cyhoedd yn y sir wybod y cosbau y gallent eu hwynebu os nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd,” meddai’r Cynghorydd Cyngor Powys Jonathan Wilkinson.
“Mae’r achos hwn hefyd yn amlygu’r ddyletswydd i fusnesau bwyd i arddangos eu Sgôr Hylendid Bwyd yn gywir. Hoffwn atgoffa aelodau’r cyhoedd i wirio Sgoriau Hylendid Bwyd cyn dewis lle i fwyta neu brynu bwyd.”