Neil McEvoy
Chwe mis ers i Blaid Cymru ddechrau ymchwiliad mewnol i gwynion yn erbyn un o’i Haelodau Cynulliad, mae ei chadeirydd wedi cadarnhau bod y broses yn parhau.

Ac mae’r Aelod Cynulliad dan sylw wedi dweud wrth golwg360 nad yw wedi cael gwybod beth ydi’r cwynion, nac wedi cael gwybod pwy sydd wedi cwyno amdano.

Dywedodd Cadeirydd y Blaid wrth golwg360 fod yr ymchwiliad i Neil McEvoy yn dal ar agor yn dilyn cyfarfod o’r panel disgyblu mewnol neithiwr.

“Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw ar faterion mewnol y blaid, dim tra mae’r broses yn mynd yn ei blaen,” meddai Alun Ffred Jones.

Doedd Alun Ffred Jones ddim yn barod i ddweud pryd mae disgwyl i’r ymchwiliad ddod i ben.

Roedd y panel disgyblu wedi cwrdd yng Nghaerdydd neithiwr [nos Iau] er mwyn trafod tair cwyn yn erbyn Neil McEvoy, er bod mwy o gwynion wedi eu gwneud yn wreiddiol.

“Dw i heb wneud dim o’i le”

Dywedodd Neil McEvoy, sy’n Aelod Cynulliad ac yn gynghorydd yng Nghaerdydd, wrth golwg360 nad oedd wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod neithiwr ac nac oedd wedi clywed gan neb o’r Blaid ers hynny chwaith.

“Os oes cwynion, byddai’n dda clywed beth ydyn nhw ar ôl chwe mis, byddai’n dda gwybod pwy sydd wedi cwyno achos dw i heb wneud dim o’i le,” meddai.

“Mae gen i ddiddordeb mewn ateb y cwynion. Dydyn nhw [Plaid Cymru] heb roi unrhyw wybodaeth i fi, dim o gwbl.”