Bydd Cyfarwyddwr nesaf Canolfan Celfyddydau Aberystwyth naill ai’n medru’r Gymraeg, neu’n ymrwymo i ddysgu’r iaith.

Yn ôl swydd ddisgrifiad y rôl, mae’n “hanfodol” bod unrhyw ymgeisydd yn medru siarad yr iaith neu’n darparu tystiolaeth “i ddangos ymrwymiad parhaus” i’w ddysgu.

Mae’r swydd yn cynnig cyflog rhwng  £49,772 a £55,998 y flwyddyn, ac yn gofyn am unigolyn “ysbrydoledig” sydd â “gweledigaeth.”

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer y swydd yw Medi 24, ac mi fydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar Hydref 13.

Wrth y llyw

Wedi tair blynedd wrth y llyw, ymddiswyddodd Gareth Lloyd Roberts o’r rôl a’r ddechrau’r flwyddyn.

Ers ei ymddiswyddiad mae’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Louise Amery, wedi bod yn gyfrifol am y ganolfan.