Cynyddodd ymweliadau undydd â Chymru gan 11% yn ystod y 12 mis hyd at Orffennaf o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Gwnaeth 102 miliwn o bobol ymweld â Chymru am ddiwrnod yn ystod y cyfnod yma gan wario £4,874m.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae perfformiad Cymru yn “dda iawn” o gymharu â gwledydd Prydain yn gyfan, lle bu gostyngiad 1% yn nifer yr ymweliadau undydd.

Cynyddodd gwariant ymwelwyr undydd i Brydain gan 5%, ond yng Nghymru roedd y cynnydd yn 51%. 

“Sefyllfa gref iawn”

“Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref iawn er gwaethaf marchnad hynod gystadleuol ac mae’r ffigurau hyn yn dal i adlewyrchu’r llwyddiant rydym wedi’i gael dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith.

“Byddwn yn parhau â’n hymgyrch i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr sydd am wyliau adref oherwydd y bunt wan ac i roi rhesymau cryf  i bobol ymweld â Chymru yn yr hydref.”