Mae trefnydd gŵyl ddefaid wedi sôn am ei bryder ynglŷn â sut y mae deiseb ar y we wedi arwain at ganslo’r digwyddiad eleni.

Mae ras ddefaid flynyddol Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri wedi gorfod cael ei chanslo yn sgil cyflwyniad deiseb ag arni 60,000 o enwau, yn gofidio am les yr anifeiliaid. 

Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Peter Rees, dyw’r bobol wnaeth gwyno “ddim yn deall cefn gwlad” ac mae’n pryderu am dargedau nesaf ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid.  

 “Rydym ni’n siomedig iawn am beth sydd wedi digwydd dros y we,” meddai Peter Rees wrth golwg360.

“Ni’n credu bod pobol sydd wedi bod yn dilyn e, falle ddim yn deall cefn gwlad, ddim yn deall beth sydd yn mynd ymlaen mewn rhywbeth fel hyn. Ni’n ofalus iawn wrth edrych ar ôl y defaid yma. Mae popeth wedi’i wneud yn iawn. Mae milfeddygon wedi bod yn bresennol ar gyfer pob ras.

“Ni’n becso os bydd rhywbeth fel hyn yn digwydd a byddwn ni ffaelu rhedeg y defaid blwyddyn hyn neu flwyddyn nesaf, beth fydd yn digwydd i bethau fel cŵn defaid a’r treialon sydd yn cael eu cynnal dros Gymru i gyd. Felly, rydym ni yn becso bod hyn yn un cam bach.”

Ras heb ddefaid?

Mae Peter Rees yn gwrthod datgelu beth fydd yn cymryd lle’r defaid yn y ras, gan ddweud nad oes cynlluniau “pendant” eto.

“Bydd yna ras yn y nos, ond bydd y ras ychydig bach yn wahanol i beth rydym ni wedi gwneud o’r blaen,” meddai. “Falle bydd e ddim, gawn ni weld. R’yn ni’n trafod pethau o hyd…

“Ar hyn o bryd does dim penderfyniad pendant wedi cael ei wneud. Ond yn bendant mi fydd ras o ryw fath.”

Yr ŵyl a’r Gymraeg

Â’r ŵyl yn cael ei chynnal yn nhref Llanymddyfri, mae Peter Rees yn cydnabod yr angen i wella darpariaeth Gymraeg yr ŵyl ac yn nodi fod gwelliannau i’w gwneud yn enwedig i’w gwefan. 

“Mae e’n anodd. Mae’r rhaglen i gyd yn ddwyieithog, mae’r hysbysebion yn y papurau yn y ddwy iaith,” meddai. “Y broblem yw bod rhai o’r gwirfoddolwyr methu siarad Cymraeg, felly mae’n anodd cael nhw i wneud popeth yn ddwyieithog os dydyn nhw methu.”

Mae posteri a chyhoeddiadau’r ŵyl yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae’r trefnydd yn nodi y bydd beirdd a bandiau Cymraeg yn cymryd rhan yn yr ŵyl.