Fe fydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi manylion cystadlaethau Llyfr y Flwyddyn “yn fuan”.

Fe ddaeth cadarnhad i golwg360 heddiw, y bydd y wybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r wasg a’r cyfryngau yn y dyfodol agos, ar gyfer y gystadleuaeth sydd i ddigwydd yn yr hydref eleni.

Ym mis Mai, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru y bydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2017 yn cael ei chynnal yn “yr hydref” ac yn cloriannu’r llyfrau a gafodd eu cyhoeddi yn 2016.

Mae’r wybodaeth nesaf i’w chyhoeddi yn cynnwys manylion am amserlen cyhoeddi’r rhestr fer ynghyd â gwybodaeth am y seremoni.

“Uchafbwynt blynyddol”

Ym mis Ionawr cafodd adolygiad ei gynnal yn gwerthuso dyfodol a chynaliadwyedd y wobr ac fe ddaeth i’r casgliad ym mis Mai fod yna alw amdani a’i bod yn un o “uchafbwyntiau blynyddol i ddarllenwyr Cymru”.

Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r ddarlledwraig Catrin Beard; y bardd Mari George, ac Eirian James perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.

Beirniaid y gystadleuaeth Saesneg yw’r awdur Tyler Keevil; yr ysgolhaig Dimitra Fimi; a’r bardd, Jonathan Edwards.