David TC Davies, AS Mynwy
Mae Aelod Seneddol Sir Fynwy wedi cael ei ail-ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.

David T C Davies oedd cadeirydd y pwyllgor ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac fe gafodd pum Aelod Seneddol eu penodi i’r pwyllgor neithiwr (nos Lun), sef Ben Lake (Plaid Cymru, Ceredigion); Chris Davies (Ceidwadwyr, Aberhonddu a Sir Faesyfed); Glyn Davies (Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn); Paul Flynn (Llafur, Gorllewin Casnewydd) a Geraint Davies (Llafur, Gorllewin Abertawe).

Effaith Brexit ar Gymru

Dywedodd David T C Davies ei bod hi’n “fraint” i gadeirio’r pwyllgor sy’n gyfrifol am archwilio unrhyw bolisïau sy’n effeithio ar Gymru.

“Mae’r Pwyllgor yn y gorffennol wedi dylanwadu’n effeithiol ar y llywodraeth ar nifer o faterion sy’n effeithio ar Gymru yn amrywio o faterion cyfansoddiadol mawr i faterion lleol megis lleihau tollau ar Bont Hafren,” meddai.

Dywedodd y bydd effaith Brexit ar Gymru yn un o’r prif feysydd trafod a’i fod yn ffyddiog y bydd yr “aelodaeth newydd eisiau parhau â’r gwaith oedd wedi’i gynnal er mwyn parhau i weithio mewn ffordd dadbleidiol er budd Cymru.”

‘Adlewyrchiad trist’

Mae lle i ddeg Aelod Seneddol a Chadeirydd ar y Pwyllgor fel arfer, a’r llynedd roedd 5 Aelod Seneddol Ceidwadol, 3 o Lafur, 1 o Blaid Cymru ac 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ohono.

Ac mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi beirniadu mai dim ond dau o Lafur wnaeth gynnig eu henwau i fod yn rhan o’r pwyllgor eleni.

 “Mae’r ffaith mai dim ond dau o’r 28 AS Llafur yng Nghymru a benderfynodd roi eu henwau gerbron yn adlewyrchiad trist o ddifaterwch y Blaid Lafur tuag at Gymru,” meddai Ben Lake.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod “mwy na hanner” ASau Llafur yn dal swyddi cysgodol ar y fainc flaen ac felly “yn eu galluogi i sefyll i fyny dros Gymru a dal y Torïaid i gyfrif.”