Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd (Llun: Canolfan yr Eglwys Norwyaidd)
Mae dros 7,000 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein i wrthwynebu cynlluniau i ddatblygu tir ym Mae Caerdydd ger yr Eglwys Norwyaidd.

Perchnogion y tir, Associated British Ports, sydd yn gyfrifol am y cynlluniau fyddai’n arwain at gasgliad o adeiladau preswyl a masnachol yn cael eu hadeiladu.

Pryder awduron y ddeiseb yw y gallai’r adeiladau – gan gynnwys bloc o fflatiau 24 llawr – “gysgodi a  gordyrru” yr Eglwys Norwyaidd.

“Os fydd y datblygiad yn cael ei gymeradwyo, bydd golygfeydd agored yr eglwys Norwyaidd a’i lleoliad wrth ymyl y dŵr, yn cael ei golli am byth,” meddai’r ddeiseb.

Mae golwg360 wedi gofyn i Associated British Ports am ymateb.

Eglwys Norwyaidd

Cafodd yr eglwys ei gysegru yn 1868 ac am dros ganrif bu morwyr Sgandinafaidd a chymuned Norwyaidd Caerdydd yn addoli yno.

Cafodd ei hailagor yn 1992 a bellach mae’n ganolfan diwylliannol.