Elin T Jones a'i merch Elena (Llun: Elin T Jones, cyfrif Twitter)
Mae cynghorydd tref wnaeth drydar wedi iddi gael ei beirniadu am siarad Cymraeg â’i phlentyn wedi dweud ei bod wedi’i rhyfeddu gan yr “ymateb ysgubol.”

Dros y penwythnos fe drodd Elin T Jones at wefan gymdeithasol Twitter gan honni fod dynes wedi gofyn iddi pam nad oedd hi’n siarad Saesneg yn hytrach na “foreign muck” gyda’i phlentyn.

Esboniodd y ferch, sy’n gynghorydd Plaid Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, ei bod yn siopa yn y dref ar y pryd ac yn dysgu enwau’r ffrwythau yn Gymraeg i’w merch fach Elena.

‘Gwahaniaethu ddim yn dderbyniol’

Erbyn hyn mae neges wreiddiol Elin T Jones wedi cael ei hail-drydar mwy na 12,000 o weithiau gyda 34,000 yn ei ‘hoffi’.

“Dw i wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth o bob cwr o’r byd, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud rhywbeth i daflu ychydig o oleuni ar y sefyllfa,” meddai.

Dywedodd ei bod am dynnu sylw nad yw “gwahaniaethu yn dderbyniol mewn unrhyw ffurf.”

Ychwanegodd ei bod yn tybio y gallai’r ddynes feddwl ei bod yn siarad Pwyleg neu unrhyw iaith arall – “ond dw i ddim yn meddwl fod gwahaniaethu ar unrhyw un yn iawn – os ydy e oherwydd yr iaith maen nhw’n siarad gyda’u plant neu am unrhyw reswm arall,” meddai.

“Mae cymaint o adlach wedi bod yn erbyn yr iaith Gymraeg yn ddiweddar, ac mae hyn yn rhan fach o hynny,” meddai wedyn.