Llun: PA
Cymru yw un o’r ardaloedd sydd â’r nifer lleiaf o seiciatryddion ymgynghorol am bob 100,000 o bobol sy’n byw yn y wlad.

Dim ond 6 seiciatrydd iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd (GIG) sydd ar gael ar gyfer 100,000 o bobol yng Nghymru o gymharu â 10 yn yr Alban, 13 yn Llundain, 8 yng Ngogledd Iwerddon a’r rhan fwyaf o Loegr.

Er hyn dim ond 5 ymgynghorydd seiciatryddol sydd ar gael am bob 100,000 o bobol yn nwyrain Lloegr, Swydd Efrog a Humber.

‘Amrywiaeth enfawr’

Mae Wendy Burn, Llywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wnaeth gynnal yr astudiaeth wedi beirniadu’r “amrywiaeth enfawr” yng ngwahanol ardaloedd o’r Deyrnas Unedig.

“Mae’r amrywiaeth enfawr mewn seiciatryddion ymgynghorol ledled y wlad yn golygu fod realaeth yn llai na’n disgwyliadau,” meddai.

“Fel meddygon â sgiliau uchel iawn, mae’n rhaid i seiciatryddion adnabod symptomau bychain, gofyn y cwestiynau iawn a deall beth yw’r broblem.”

Ychwanegodd fod yr astudiaeth yn dangos fod y nifer o fyfyrwyr meddygol sy’n arbenigo mewn seiciatreg wedi “gwastau.”

Er hyn, dywed Llywodraeth Prydain eu bod wedi ymrwymo i gael 570 o seiciatryddion ychwanegol erbyn 2020/2021.

‘Ymrwymo at welliannau’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi “ymrwymo at welliannau parhaus” o ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

“Rydym yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda chyfanswm y gyllideb yn codi i £629m eleni.”

Ychwanegodd eu bod yn “cydnabod yr her recriwtio” ar gyfer y gweithlu seiciatreg ledled y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn gweithio ar ymestyn sgôp ein hymgyrch genedlaethol a rhyngwladol – ‘Dyma Gymru: Hyfforddi, Gweithio, Byw’ – fel y bydd yn cynnwys y gweithlu seiciatreg.”