Llyr Gruffydd - 'angen ailddechrau'r broses' (Llun Cynulliad)
Mae ymgynghorydd wedi cydnabod ei bod yn gorfod trefnu cyfarfodydd ar frys mawr er mwyn cael barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu’r cyrff lleol sy’n rhoi llais i ddefnyddwyr y Gwasanaeth Iechyd.

Gyda llai na mis ar ôl cyn diwedd yr ymgynghori ynghylch y cynlluniau, mae’r pennaeth cwmni ymgynghori, Bethan Webber, wedi apelio am gymorth i drefnu lleoliadau a chael pobol i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws.

Mae’r amserlen yn dynn iawn, meddai hi mewn neges Facebook yn apelio am gymorth – fe gafodd y neges ei gosod ddechrau’r mis ac mae’r ymgynghoriad, a ddechreuodd ym mis Mehefin, yn dod i ben ar 29 Medi.

‘Angen ailddechrau neu ddileu’ – Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Llywodraeth o fethu ag ymgynghori’n iawn ar y Papur Gwyn sy’n argymell cael un corff cenedlaethol yn lle casgliad o Gynghorau Iechyd Cymuned lleol.

Mae Llyr Gruffydd, yr AC tros Ogledd Cymru, wedi galw am ailddechrau’r broses ymgynghori neu ei diddymu hi’n llwyr.

Mae’n cyhuddo’r Llywodraeth o “ddirmyg llwyr” at bobol Cymru trwy fethu ag ymgynghori’n eang a thrwy wrthod cymryd rhan mewn cyfarfodydd ymgynghori oedd yn cael eu cynnal gan gwmni ymgynghori masnachol.

“Mae methiant Llywodraeth Cymru i ofyn am farn y tu hwnt i’w cylchoedd cyfyng eu hunain yn awgrymu imi fod hwn yn broses ymgynghori mewn enw’n unig a bod y penderfyniad eisioes wedi ei wneud,” meddai Llyr Gruffydd.

“Dylai’r broses gyfan o amgylch y Papur Gwyn hwn gael ei ail-ddechrau neu ei ddiddymu’n llwyr.”

Cynlluniau’r Llywodraeth

Mae Papur Gwyn y Llywodraeth wedi ei seilio ar Bapur Gwyrdd ymgynghorol cynharach ac mae yna wahoddiad agores wedi bod i bobol ymateb i’r ddogfen ymgynghorol.

Yn y ddogfen, mae’r Llywodraeth yn awgrymu cael gwared ar y Cynghorau Iechyd Cymuned a chreu corff cenedlaethol a fyddai â rhyddid i ddewis sut i weithredu’n lleol.

Fe fyddai’r corff hwnnw, meddai gweinidogion, yn cynnwys gofal ac iechyd ac yn gweithio ochr yn ochr â’r ddau gorff arolygu yn y meysydd hynny.

Fe fyddai hynny, madden nhw, yn creu gwell proses o gynllunio gwasanaethau.