Mewn blwyddyn, mae nifer y bobol sy’n marw o hunanladdiad yng Nghymru wedi gostwng ychydig, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol [ONS].

Yn 2015, fe laddodd 350 o bobol eu hunain, ond erbyn 2016, roedd y ffigur wedi cwympo i 322. Er hynny mae’r ffigwr yn sylweddol uwch na’r 247 a fu farw o hunanladdiad yn 2014.

Ers 2006, mae’r nifer a laddodd ei hunain wedi amrywio rhwng llai na 250 mewn blwyddyn a bron i 400 [393] yn 2013, pan fu ar ei uchaf.

Mae dynion yn dal i fod yn llawer mwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, gyda thri chwarter o hunanladdiadau yn wryw.

Ar gyfer marwolaethau yn 2016 ledled gwledydd Prydain, pobol rhwng 40 a 44 oed oedd y grŵp gyda’r canran uchaf o hunanladdiadau.

Golwg agosach ar ffigurau Cymru

Yng Nghymru, cafodd y cofnod uchaf o hunanladdiadau ei nodi yng Nghaerdydd gyda 33 o bobol yn marw. Bu farw 28 o hunanladdiad yn Abertawe, 25 yn Sir Gâr a 22 ym Mhowys.

Y cofnod isaf oedd ym Merthyr Tudful, lle bu farw 5, yng Ngheredigion ac Ynys Môn lle wnaeth 7 ladd eu hunain, ac ym Mlaenau Gwent, lle bu farw 9 person.

Ar y cyfan, ledled gwledydd Prydain, fe wnaeth nifer yr hunanladdiadau ostwng 3.4% rhwng 2016 a 2015.

Yn ôl yr ONS, fe wnaeth y gyfradd yng Nghymru a’r Alban ostwng ychydig, o gymharu â Lloegr a welodd ostyngiad “sylweddol.”

Y ffordd fwya’ gyffredin o hunanladdiad yn 2016 oedd drwy grogi.