Esgob Abertawe ac Aberhonddu, y Gwir Barchedig John Davies, yw Archesgob newydd Cymru.
Cafodd ei ethol o blith chwech esgob Cymru yn dilyn cyfarfod o’r coleg etholiadol ddydd Mawrth.
Fe fydd yn olynu Dr Barry Morgan, sydd wedi ymddeol ar ôl 14 o flynyddoedd.
Fe fu’n Esgob Abertawe ac Aberhonddu ers 2008 ar ôl gadael byd y gyfraith.
Cafodd ei ethol o blith chwech esgob Cymru yn dilyn cyfarfod o 42 o aelodau’r coleg etholiadol yn Llandrindod ddydd Mawrth. Roedd angen dau draean o’r bleidlais arno i gael ei ethol. Y
r esgobion eraill yn y ras oedd Esgob Llandaf June Osborne; Esgob Tyddewi Joanna Penberthy; Esgob Bangor Andy John; Esgob Llanelwy Gregory Cameron; ac Esgob Mynwy Richard Pain.
Fe fydd hi’n rhai misoedd cyn cynnal seremoni i’w groesawu i’r swydd yn ffurfiol.