Carwyn Jones a Damian Green cyn y trafodaethau Brexit (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud fod angen “newid agwedd” o ran yr hyn y mae’r setliad ddatganoli yn ei olygu.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green, yng Nghaerdydd ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Roedden nhw’n trafod y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac yn ôl llefarydd ar ran Carwyn Jones, mae Llywodraeth Cymru am barhau i bwyso am “newid” i’r mesur hwnnw.

‘Gweithio i Gymru’

Disgrifiodd Carwyn Jones y cyfarfod yn un “ddwyochrog adeiladol” ond fod angen newidiadau i’r mesur i “amddiffyn hawliau pobol Cymru.”

Ychwanegodd y llefarydd fod angen “newid agwedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y modd y maen nhw’n cyfeirio at Weinyddiaethau Datganoledig.”

“Tra bod cytundeb ar nifer o amcanion heddiw, mae dal angen newid agwedd yn San Steffan am beth mae’r setliad datganoli yn ei olygu mewn egwyddor ac arfer.”

Pwysleisiodd nad yw Prif Weinidog Cymru am “rwsytro Brexit” ond – “mae angen Brexit arnom sy’n gweithio i Gymru ac i economi Cymru,” meddai.

Ymateb Damian Green ac Alun Cairns

Yn y cyfamser mae Damian Green yn mynnu nad yw Llywodraeth Prydain am ddefnyddio’r Bil Ymadael fel cyfle “i ddwyn pwerau’n ôl.”

“Rydym eisiau ac yn disgwyl i fwy o bwerau gael eu datganoli i Gymru ar ôl Brexit,” meddai wedi’r cyfarfod.

“Rydym yn edrych ar y ffordd fwyaf ymarferol y gallwn ni gael yr holl ddeddfwriaeth drwyddo ac wedi’i drafod gan y Senedd, ynghyd ag ardaloedd datganoledig, ac wedi’i gytuno gyda’r weinyddiaeth ddatganoledig,” ychwanegodd.

Dywedodd Alun Cairns wedi’r cyfarfod fod “Llywodraeth Cymru a minnau eisiau’r un peth.”

“Rydym eisiau i Gymru ffynnu, rydym eisiau cytundeb da ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan gyda’r Undeb Ewropeaidd …dyma ble mae’r Deyrnas Unedig angen dod at ei gilydd i gael y fargen orau i’r Deyrnas Unedig gyfan,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Fe fydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn cael ei drafod ddydd Iau ar ôl i  Aelodau Seneddol ddychwelyd i San Steffan wedi’r gwyliau haf.