Ar drothwy cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf y mae’n ei disgrifio fel un sy’n “achosi pelydrau o hiwmor”, mae’r awdur a cholofnydd Julian Ruck wedi ennyn ymateb chwyrn ar wefannau cymdeithasol am ei sylwadau am y Gymraeg – gan ddigrifwr.

Fe fydd Not Yet yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun.

Dywedodd Julian Ruck ar ei dudalen Twitter fod “rhagwelediad plwyfol cefnogwyr yr iaith Gymraeg yn arswydus”, cyn ceisio cyfiawnhau ei farn.

Mewn ail bostiad, ychwanega: “Dydyn nhw ddim yn gweld bod 16-18% o bobol yng Nghymru’n siarad Cymraeg – nid ei hysgrifennu hi yw hyn, sy’n llai fyth.”

‘Ddim yn wir’

Ond trydydd sylw sydd wedi ysgogi ymateb gan y digrifwr Steffan Alun o Abertawe.

“Maen nhw’n methu â sylwi bod pob siaradwr Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd – yn rhugl.”

Wrth ymateb, dywed Steffan Alun, yn Saesneg, nad yw hynny’n wir.

Roedd yr ymateb hwn yn fwy dof o lawer na’i ymateb blaenorol: