Mae beiciwr modur wedi cael ei ladd mewn gwrthdrawiad â char ar ffordd A40 ym Mhontsenni.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 3.25pm brynhawn ddoe.

Bu farw’r beiciwr modur yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.