Fe roddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i fyrddau iechyd dalu cyflogau uchel i reolwyr y Gwasanaeth Iechyd 12 o weithiau dros y tair blynyedd nesaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf.

Mae’r swm uchaf y gall uwch-swyddogion yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ennill fel cyflog yn amrywio rhwng £85,950 a £202,000 y flwyddyn, ac mae unrhyw swm y tu hwnt i hynny yn gorfod cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru.

Mewn llythyr at arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, nododd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, fod gwahanol byrddau iechyd Cymreig wedi gofyn i Lywodraeth Cymru 13 o weithiau i godi’r lefel o gyflog y tu hwnt i’r uchafswm – a hynny ar gyfer penodiadau newydd.

Un o’r byrddau a gafodd ganiatâd i wneud hyn – a hynny 5 o weithiau – oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, er gwaethaf y ffaith bod y bwrdd yn cael ei fonitro’n agos gan Lywodraeth Cymru yn sgil rhedeg ar golledion.

Mae’n debyg hefyd fod Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi gwneud tebyg 3 o weithiau a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan 2 o weithiau.

“Sarhad” i weithwyr y rheng flaen

Dywedodd Andrew RT Davies, wrth sylwi ar y cyflogau uchel sy’n cael eu talu i benodiadau newydd, nad yw’n “syndod” iddo fod pedwar allan o’r saith bwrdd iechyd sydd yng Nghymru yn rhedeg ar golled.

“Er fy mod i’n derbyn yr angen i fyrddau iechyd fod yn gystadleuol wrth ddenu’r talentau gorau”, meddai, “fe fydd nifer sy’n gweithio ar y rheng flaen yn gweld hyn fel sarhad, yn enwedig ar ôl yr holl doriadau mae Llafur Cymru wedi ei wneud i’w cyllidoedd.”

Sylwadau AC yn “nonsens”

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod sylwadau Andrew RT Davies yn “nonsens”, a bod gwariant ar wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar ei uchaf, a hynny er gwaethaf toriadau “sylweddol” i’w chyllid gan Lywodraeth Prydain.

“Dyma swyddi uchel o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. 

“A thra bo angen i gyflogau cael eu rheoli a bod yn werth yr arian, mae hefyd angen cydnabod yr ystod eang o gyfrifoldebau y mae’r unigolion profiadol hyn yn ymgymryd â nhw wrth ddarparu gofal gorau posib i bobol Cymru.”