Hal Robson-Kanu
Mae colofnydd cylchgrawn
Golwg wedi datgan mai dyma’r “wythnos bwysicaf i dîm Cymru ers yr Ewros”.

Yn ôl Phil Stead mae yn rhaid i Gareth Bale a’r criw sicrhau dwy fuddugoliaeth o’r bron, gartref yn erbyn Awstria nos yfory ac yna draw ym Moldofa nos Fawrth.

Ac mae un o gyn-ymosodwyr y tîm rhyngwladol yn cytuno bod angen buddugoliaeth wedi cyfres o gemau cyfartal yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd ffeinals Cwpan y Byd yn Rwsia’r flwyddyn nesaf.

Mae Cymru yn y drydydd yn eu grŵp rhagbrofol, bedwar pwynt tu ôl i Weriniaeth Iwerddon a Serbia sydd y brig.

Cafodd Cymru gêm gyfartal 2-2 yn Vienna mis Hydref y llynedd, un o sawl gornest pan oedd y bechgyn ar y blaen cyn ildio a gorfod setlo am bwynt.

“Dw i’n gobeithio bod pawb yn y garfan wedi sylweddoli mai hon yw’r gêm mae’n rhaid i ni ennill,” meddai Malcolm Allen.

Rydan ni yn agos i fynd allan o’r gystadleuaeth hon, ac ar ôl haf diwethaf mi fyddai [methu] yn siom enfawr i bawb, yn enwedig y chwaraewyr.”

Ergyd i ganol cae Cymru

“Gyda chwaraewr canol cae Stoke, Joe Allen allan o gêm ddydd Sadwrn ac anaf i Emyr Huws, mae canol cae ni wedi cael ergyd,” meddai Malcolm Allen.

“Hefyd gyda diffyg ffitrwydd Joe Ledley, mae penderfyniad i’w wneud gan Chris Coleman.

“Buaswn i yn dechrau Joe a gweld sut mae yn mynd, dw i’n sicr y cawn ni awr ohono. Bydd yr hyfforddwyr wedi bod yn asesu fo’n fanwl o ddydd i ddydd. Yn y llinell flaen, Hal Robson-Kanu i fi. “Bydd yn achosi mwy o broblemau i amddiffynwyr Awstria oherwydd ei gyflymdra.

“Mae Sam Vokes yn un da i ddod ar fel eilydd pe bai ni angen gôl neu newid steil o chwarae. Hefyd dibynnu ar ba system bydd Chris wedi dewis, posib bydd Ben Woodburn yn dechrau. Beth bynnag bydd y canlyniad nos Sadwrn bydd Joe Allen yn gorfod dechrau nos Fawrth allan yn Chisinau, Moldova.

“O ran Aaron Ramsey, hyd yn oed bod Arsenal wedi cael crasfa gan Lerpwl dydd Sadwrn a nifer yn eu beirniadu, bydd Aaron ddim yn gadael i’r sefyllfa effeithio fo, bydd yn falch i fod mewn amgylchedd cyfarwydd.”

100 o gapiau i Gunter

Cyn y gêm fawr, roedd Malcolm Allen am dalu teyrnged i gefnwr bytholwyrdd Cymru.

“Mae’n  rhaid  i fi grybwyll Chris Gunter,” meddai. “Dw i’n siŵr mai fo fydd y chwaraewr cyntaf i ennill 100 o gapiau i Gymru.

“Mae o ar 79 ar hyn o bryd, chwe thu ôl i’r ddiweddar Gary Speed, ac 13 tu ôl i  Neville Southall.

“[Mae Chris Gunter] yn chwaraewr cyson, [gallwn ni] bob tro dibynnu arno ac [mae ganddo] ymroddiad arbennig i’w waith fel pêl-droediwr.”

Gweddill gemau Cymru

Moldova –Cymru  05.09.17

Georgia – Cymru  06.10.17

Cymru – Iwerddon  09.10.17

Bydd Malcolm Allen yn sylwebu i Sgorio ar y gêm sy’n fyw ar S4C nos yfory.