Afanc.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi dewis ardal yn Sir Gaerfyrddin i ryddhau hyd at ugain o afancod i’r gwyllt.

Er hyn, nid ydyn nhw wedi cyhoeddi’r union fan eto, ond mae’n debyg eu bod yn cydweithio â mudiad The Bevis Trust sydd eisoes ag afancod gwyllt ar eu fferm ger Caerfyrddin.

Ym mis Ionawr eleni fe ddaeth hi i’r amlwg y gallai afancod gael eu hailgyflwyno i Gymru am y tro cyntaf mewn 500 mlynedd erbyn diwedd 2017.

Ar hyn o bryd mae’r cais am drwydded yn parhau i gael ei asesu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

‘Mor fuan â phosib’

Dros y misoedd nesaf mae Ymddiriedolaeth Natur Cymru yn gobeithio codi arian gyda’r bwriad o ryddhau tua deg pâr o’r anifeiliaid i’r gwyllt.

“Rydym yn gobeithio eu hailgyflwyno mor fuan â phosib ac mae angen cyllid i wneud hyn,” meddai Alicia Leow-Dyke, swyddog Prosiect Afancod Cymru.

Ychwanegodd fod angen “paratoi safleoedd, hyfforddi gwirfoddolwyr, datblygu cyfloed addysg” ynghyd â dod o hyd i afancod i’w rhyddhau.

Afancod Sir Gâr

Un sydd eisoes yn cadw afancod tu ôl i ffens ar ei dir yw un o gyfarwyddwyr fferm The Bevis Trust ger Heol Llysonnen, Caerfyrddin.

Esboniodd Drew Love-Jones wrth golwg360 fod ganddyn nhw dri phâr o afancod ynghyd â rhai bach ar eu tir ers tua thair blynedd.

Wrth ei holi a fyddai cyflwyno mwy i’r ardal yn effeithio ar les yr afancod presennol ac a fydden nhw’n ymladd, dywedodd na fyddai hynny’n debygol.

“Mae’r afancod yn cael eu sgrinio o ran iechyd, ac yn y gwyllt byddan nhw’n dod o hyd i’w tiriogaeth eu hunain,” meddai.

“Rydyn ni o’r farn y byddai ailgyflwyno’r afancod yn dda i gefn gwlad achos gallan nhw helpu gwella llifogydd, hidlo dŵr ffo a slyri o ffermydd a chreu cynefin da i fywyd gwyllt eraill.”

Dywedodd eu bod wedi gweld pedwar glas y dorlan ar eu fferm ers cyflwyno’r afancod, ac nad oedden nhw wedi gweld yr adar yn yr ardal o’r blaen.

Er hyn, mae rhai ffermwyr a physgotwyr yn y gorffennol wedi mynegi pryder am effaith afancod ar weddill bywyd gwyllt a physgod.

Mae arbrofion llwyddiannus i ailgyflwyno’r afancod wedi’u cynnal yn yr Alban a de-orllewin Lloegr.