Aberaeron - tre dawel, lot o helynt (Aeronian CCA3.0)
Mae aelodau cynulliad a seneddol Ceredigion wedi dweud fod angen ystyried y “cyd-destun” yn dilyn cwyn am fflôt ‘hiliol’ yng ngharnifal Aberaeron ddechrau’r wythnos.

Mewn datganiad ar y cyd mae Elin Jones a Ben Lake yn dweud nad oedd “bwriad hiliol” y tu cefn i’r arddangosfa pan oedd criw lleol wedi duo’u hwynebau i ddynwared cwmnïau o’r ffilm Cool Runnings.

Ond mae’r ddau aelod Plaid Cymru hefyd yn dweud mewn datganiad ar Twitter na ddylai’r digwyddiad “normaleiddio hiliaeth mewn unrhyw ffordd”.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys wrth golwg360 ddechrau’r wythnos eu bod nhw wedi derbyn cwyn am y fflôt a bod swyddogion lleol yn cynnal ymchwiliad.

‘Ymgais naïf’

Yn eu datganiad, mae Ben Lake ac Elin Jones yn nodi – “mae hiliaeth ym mhob ffurf a siâp yn wrthun ac mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ymdrechu i’r eithaf i’w ddileu o’n cymdeithas”.

“Mae’r cyd-destun yn allweddol er hynny,” medden nhw, “ac o bopeth rydym wedi’i weld a’i ddarllen, doedd dim bwriad hiliol yn y fflôt hwn – ond ni ddylem chwaith ruthro i fwrw amheuaeth ar integriti’t perfformwyr yn yr achos hwn.”

Mae’r datganiad yn ychwanegu – “mae’n bosib fod y rhai oedd yn rhan o’r perfformiad wedi cael cryn sioc o glywed am y cyhuddiad o hiliaeth yn eu herbyn”.

Maen nhw hefyd yn dweud na ddylai neb “ruthro” i amau “integriti” y criw ar y fflôt ond y dylai’r achos fod yn “wers” ac y dylai “godi ymwybyddiaeth o gyd-destun hanesyddol duo’r wyneb, a’r sarhad y gall hyn ei achosi”.

Cefndir

Cafodd carnifal Aberaeron ei gynnal ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, Awst 28, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod swyddogion lleol yn cynnal ymchwiliad.

Wedi’r digwyddiad, dywedodd Dinah Mulholland, ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngheredigion yn yr Etholiad Cyffredinol eleni, ei bod hi “wedi ffieiddio” o weld y fflôt.