Wynford Elis Owen
Heddiw yw diwrnod olaf Wynford Ellis Owen yn Brif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd – elusen a sefydlwyd ganddo ef chwe blynedd yn ôl i helpu pobol i wella o ddibyniaeth.

Ers ei sefydlu, mae’r elusen wedi helpu dros 700 o bobol i ddelio gyda phob math o ddibyniaethau – o alcohol a chyffuriau i ryw, bwyd, gamblo a hunan-niweidio.

Ond er ei ymddeoliad, fydd gwaith Wynford Ellis Owen, sydd ei hun eleni yn dathlu 25 mlynedd o sobrwydd, ddim yn dod i ben yn gyfan gwbwl.

Mae ganddo gynlluniau i agor canolfannau Stafell Fyw yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon.

“Dw i’n mynd i fod yn gweithio dau ddiwrnod o’r wythnos, mae’n rhaid i fi fanijo’r ymddeoliad yma’n ofalus, faswn i’n stopio gwneud pob dim, dw i’n meddwl y byddwn i’n farw mewn chwe mis!” meddai wrth golwg360.

“Bydda’ i’n gweithio dau ddiwrnod iddyn nhw, yn gofalu am gynnal y gwasanaeth i glerigwyr a gweinidogion yr Efengyl [â dibyniaethau] a hefyd mi fydda’ i’n gofalu am y gwasanaeth curo’r bwci/beat the odds, y gamblo.

“Rydan ni eisoes wedi symud i Gaerfyrddin, fydda’ i yng Nghaerfyrddin rhyw dri diwrnod o bob mis rŵan, dw i’n gobeithio datblygu rhywbeth yn fan’na.

“A hefyd Caernarfon, faswn i yn licio sefydlu rhywbeth a bod yn gefn i rai o’r gwasanaethau sydd i fyny yn y gogledd. Mi fydda’ i’n chwilio am bobol i fyny fan’na o’r un anian â fi, sy’n fodlon helpu achos fedra i ddim gwneud hyn ar ben fy hun.

“Mae’n rhaid i fi gael cefnogaeth leol a dw i’n siŵr bod yna rhai eglwysi yn barod yn fodlon iawn i helpu ac unigolion dw i’n nabod,” meddai Wynford Ellis Owen wedyn.

“Bydda i fyny penwythnos yma yn siarad mewn rhyw gynhadledd, felly dw i’n gobeithio gwneud cysylltiadau a sefydlu rhywbeth yn go fuan fan’na.”

Cynnig gwasanaeth Cymraeg

Un o nodweddion y Stafell Fyw yw gallu cynnig help i bobol yn Saesneg ac yn Gymraeg – rhywbeth y mae actor Syr Wynff yap Concord y Bos yn yr 1980au yn falch iawn ohono.

“Mae’r Gymraeg yn hanfodol, dyna ydi’r peth mawr am Stafell Fyw, dw i’n meddwl pan mae’r rhan fwyaf o Gymry yn meddwl am rywle sydd yn delio gyda phroblemau.

“Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw bellach yn meddwl yn syth am y Stafell Fyw ac mae hwnna’n bwysig iawn achos mae yna ddigon o dystiolaeth yn dangos bod pobol yn adrodd yn well pan maen nhw’n gwneud hynny yn eu mamiaith eu hunain.

“Yn sicr pan fydd o’n symud i’r gogledd a Chaerfyrddin, fwyfwy dw i’n meddwl y bydd yna Gymry yn dod i sylweddoli eu hangen am help ac yn dod atom ni ac yn rhoi’r cyfle ac anrhydedd i ni helpu nhw ym mha bynnag ffordd y medrwn ni.”

Ysgrifennu eto

Wedi saib o bron i naw mlynedd o ysgrifennu, mae Wynford Ellis Owen yn gobeithio ail-afael a dechrau creu dramâu a chyfresi teledu gyda’i ferch, yr actor Bethan Ellis Owen.

“Mae’r syniadau yn ôl rŵan, mae gen i lot o bethau dw i eisiau eu cyflawni a’u sgwennu rŵan felly gobeithio y caf i iechyd i wneud hynny.”