Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi canmol cyfraniad Kezia Dugdale i ddatganoli o fewn strwythurau Prydeinig y Blaid Lafur.
Daw ei sylwadau ar ôl iddi hi gyhoeddi heddiw ei bod hi’n rhoi’r gorau i arweinyddiaeth y blaid yn yr Alban.
Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones ei bod hi wedi bod yn arweinydd “gwych” o dan “yr amgylchiadau mwyaf anodd”.
‘Tynnu Llafur yr Alban oddi ar y dibyn’
Roedd y blaid yn yr Alban wedi colli pob sedd ond un yn etholiad cyffredinol 2015, ond dywedodd hi fod angen “egni newydd” ar y blaid erbyn hyn.
“Mae’n flin iawn gen i weld bod Kezia yn camu o’r neilltu fel arweinydd,” meddai Carwyn Jones.
“Mae hi wedi gwneud gwaith gwych o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd, ac wedi tynnu Llafur yr Alban oddi ar y dibyn.
“Bydd gan y blaid ddyled fawr o ddiolchgarwch iddi am hynny am byth. Fe wnes i fwynhau ein perthynas waith a gyda’n gilydd, fe wnaethon ni gydweithio i sicrhau lle cadarnach a pharhaol i’r pleidiau datganoledig o fewn strwythurau Llafur.
“Rwy’n dymuno’n dda iawn i Kez ar gyfer y dyfodol.”