Mae Anna Bassi, golygydd y cylchgrawn i blant 8-14 oed The Big Week Junior
, wedi ymddiheuro am erthygl ddiweddar yn gofyn “Oes diben dysgu ieithoedd lleiafrifol?” – gan dynnu sylw at y Gymraeg.

Roedd yr erthygl yn dadlau mai “Saesneg yw iaith y Deyrnas Unedig”, gan drafod manteision ac anfanteision dysgu ieithoedd lleiafrifol i blant.

Cafodd yr erthygl ei hysgrifennu ar y cyd â’r Undeb Dros Siarad Saesneg, “undeb sy’n annog pobol ifanc i ddarganfod eu llais”.

Yr erthygl

Fe gyfeiriodd yr erthygl at gwymp o 7,000 yn nifer siaradwyr y Gymraeg rhwng 2004 a 2014, gan nodi bod “camau mawrion” wedi cael eu cymryd i’w hachub yn yr ysgolion, gan gynnwys gwersi sy’n cael “eu dysgu yn yr iaith leol yn unig”.

“Ydy hyn yn syniad da?” meddai’r erthygl, cyn ychwanegu, “Oes diben dysgu ieithoedd lleiafrifol?”.

Wrth gyflwyno’r manteision, dywed yr erthygl fod “pob iaith yn bwysig” gan ofyn a oes gan siaradwyr “hawl i rannu’r iaith â chenedlaethau’r dyfodol”.

Anfanteision

Ond mae’r darn oedd yn cyflwyno’r anfanteision wedi corddi’r dyfroedd, wrth i’r erthygl ddweud ei bod hi’n “wastraff amser dysgu iaith mae cyn lleied o bobol yn ei siarad” ac “nad oes neb ei hangen”.

Fe ddywed fod “ffyrdd newydd o gyfathrebu, gan gynnwys emojis”, ac y “dylai ysgolion ganolbwyntio ar ddysgu ieithoedd mae miliynau o bobol yn eu siarad” – gan gyfeirio’n benodol at Sbaeneg a Mandarin.

Dywed yr erthygl nad oes lle i ieithoedd lleiafrifol yn yr ystafell ddosbarth, gan awgrymu y “gall iethoedd lleiafrifol gael eu dysgu yn y cartref”, a bod hynny’n “gwneud mwy o synnwyr” er mwyn “paratoi disgyblion ar gyfer y byd ehangach”.

Mae’r erthygl yn cynnwys canlyniadau pôl piniwn, sy’n dangos bod 77% o ddarllenwyr yn credu ei bod hi’n bwysig cadw ieithoedd lleiafrifol yn fyw.

Ymddiheuriad

Ond wrth gydnabod fod “tipyn o feirniadaeth” wedi bod ar yr erthygl, mae’r cylchgrawn wedi cyhoeddi ymddiheuriad ar ei dudalen Twitter.

Yn ei datganiad, dywed Anna Bassi: “Mae erthygl nodwedd The Big Week Junior am gynnal ieithoedd lleiafrifol wedi ypsetio dipyn o dros y penwythnos.

“Nod y darn barn yw cael ein darllenwyr i feddwl a siarad am rai o’r materion sydd wedi’u cynnwys yng ngwasg y DU.

“Rydym yn credu’n gryf mewn annog pobol ifanc i archwilio materion pwysig a gadael iddyn nhw ffurfio’u barn eu hunain a datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol.

“Fodd bynnag, rwy’n cydnabod fod y sylw i’r pwnc pwysig hwn ar ffurf dadl wedi achosi sarhad ac y dylid fod wedi rhoi sylw iddo mewn ffordd wahanol.

“Hofwn ymddiheuro’n bersonol ac ar ran y cylchgrawn.”