Cerys Matthews gyda Gill Stephen a Magi Ann (Llun: y Loteri Genedlaethol)
Mae cyfres o apiau sy’n  helpu teuluoedd i ddysgu Cymraeg wedi cipio Gwobr y Loteri Genedlaethol gan guro 1,300 o brosiectau eraill ar draws y Deyrnas Unedig.

Cyfres o lyfrau cyfrwng Cymraeg i blant sy’n dod yn fyw trwy chwech o apiau am ddim yw Magi Ann ac mae’n helpu rhieni a phlant i ddarllen a mwynhau’r Gymraeg gyda’i gilydd.

Mae’r fenter o Sir y Fflint yn cael ei rhedeg gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, sy’n ennill gwobr ariannol o £5,000, tarian eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol ac ymddangosiad ar sioe arbennig ar BBC One ar 27 Medi.

Y gantores o Gymru, Carys Matthews, a gyhoeddodd bod y prosiect wedi’i bleidleisio yn Brosiect Addysg Gorau’r DU yn yr ymgyrch flynyddol i ganfod hoff achosion da’r DU sy’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol.

Defnyddiodd Menter Iaith Sir Fflint arian y Loteri Genedlaethol i greu’r apiau sydd wedi’u lawrlwytho dros 100,000 gwaith, sy’n caniatáu i rieni ar draws Cymru – ac ar draws y byd, gan gynnwys Patagonia – i gael mynediad at y straeon.

“Atgofion melys”

Dywedodd y gantores, y gyfansoddwraig, yr awdures a’r ddarlledwraig Cerys Matthews: “Mae’r apiau Magi Ann yn gymaint o hwyl! Maen nhw’n cyflwyno’r llyfrau Cymraeg annwyl hyn i gynulleidfa newydd, gan helpu rhieni a phlant i ddysgu Cymraeg gyda’i gilydd, gan wneud gwahaniaeth mawr i ddysgwyr ar draws Cymru a’r tu hwnt.

“Mae gan lawer o siaradwyr Cymraeg atgofion melys o’r llyfrau hyn, a nawr, diolch i’r apiau hyn, gall unrhyw un yn y byd eu mwynhau.

“Maen nhw’n haeddu’r Wobr hon – dylai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn falch iawn eu bod wedi helpu’r hudolus Magi Ann.”

“Adnoddau annwyl”

Dywed Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, bod cipio un o wobrau’r Loteri Genedlaethol yn anrhydedd:

“Fe wnaeth arian y Loteri Genedlaethol wahaniaeth mawr wrth sefydlu’r prosiect hwn. Mae’r straeon hyn yn adnoddau annwyl iawn i blant y mae’r Gymraeg yn famiaith iddynt ynghyd ag i ddysgwyr, a gall rhieni ac athrawon nad ydynt yn rhugl fod yn hyderus eu bod yn ynganu’r geiriau’n gywir.

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol a derbyn cydnabyddiaeth fel hyn gan y cyhoedd, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU. Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd drosom ni ac i bawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am alluogi inni gyflwyno’r Gymraeg i gynifer o bobl.”

Y cyhoedd sy’n penderfynu ar enillwyr Gwobrau’r Loteri Genedlaethol – pleidleisiodd 2,924 o bobl dros Magi Ann i ennill y Prosiect Addysg Gorau.