Yr ymgyrch i achub pysgod o gamlas Casnewydd (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru/C.Jones)
Bu’n rhaid i dros 15,000 o bysgod gael eu hachub yng Nghasnewydd dros y penwythnos, pan ddechreuodd camlas ollwng dŵr.

O ganlyniad i hollt mewn rhan o gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, disgynnodd ei lefelau dŵr i lefel hynod o isel ar ddydd Sadwrn (Awst 26).

Gyda bywydau’r pysgod yn y fantol aeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Dinas Casnewydd a chlybiau pysgota lleol ati i achub y pysgod.

Cafodd y pysgod eu dal â rhwydi a thechnegau ‘electro-bysgota,’ a chawson nhw eu cludo ymhellach i fyny’r gamlas lle oedd y dŵr yn ddyfnach.

“Achub miloedd”

“Roedden ni’n gwybod bod yn rhaid inni weithredu’n ddi-oed i achub y pysgod gan fod lefel y dŵr a’r ocsigen yn gostwng yn gyflym,” meddai Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Jon Goldsworthy.

“Gyda help gan ein partneriaid a’n gwirfoddolwyr, fe wnaethon ni lwyddo i achub miloedd o bysgod. Efallai na fydden nhw wedi goroesi fawr hirach yn yr amodau hynny.

“Bydd Cyngor Dinas Casnewydd, perchennog y safle, yn parhau i fonitro’r gamlas a rhoi cynlluniau ar waith i drwsio’r bwlch a symud unrhyw bysgod sydd ar ôl.”