Castell Penrhyn (Llun: Cyngor Gwynedd)
Bydd dros 60 o leoliadau yng Ngwynedd a Chonwy – gan gynnwys adeiladau hanesyddol a gerddi -yn agor eu drysau i’r cyhoedd mis nesaf.

Bydd y lleoliadau ar agor fel rhan o gynllun ‘Drysau Agored’ corff CADW, a’r nod yw dathlu treftadaeth bensaernïol Cymru.

Ymysg y lleoliadau fydd yn agor eu drysau bydd Eglwys y Santes Fair, Caernarfon; Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog;  ac Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Hefyd, eleni mae’r rhaglen yn cynnwys safleoedd sy’n gysylltiedig â’r cais am statws Safle Treftadaeth y Byd i ardaloedd llechi Cymru.

Mae’r safleoedd yma yn cynnwys Castell Penrhyn ym Mangor, Amgueddfa Forwrol Porthmadog ac Ysbyty’r Chwarel yn Llanberis.

“Canfod y gorau”

“Mae Drysau Agored yn gyfle gwych i ganfod y gorau sydd gan ein dwy sir i’w gynnig mewn treftadaeth bensaernïol,” meddai’r Cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, Ioan Thomas.

“O eglwysi hanesyddol ac amgueddfeydd i erddi a chestyll, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r rhaglen yn cynnig diwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, ac wir yn dangos y cyfraniad mae ein treftadaeth yn ei wneud i’r profiad ymwelwyr yng Ngwynedd a Chonwy.”