Mae blogiwr yn amau a fydd yna Fro Gymraeg erbyn y daw cynllun Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg i fwcwl yn 2050.

Ar ei wefan, www.politicsbyrebuttal.blogspot.co.uk, mae wedi mynd ati i edrych ar ystadegau ysgolion cynradd siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy, er mwyn ceisio rhagweld sut y bydd hi ar nifer y siaradwyr Cymraeg ymhen ychydig dros 30 mlynedd.

“I mi, y cwestiwn llosg ydi a fydd yna ardaloedd Cymraeg erbyn hynny,” meddai’r blogiwr. “Yr hyn o’n i eisiau ei weld oedd os ydi’r iaith yn goroesi yn ei chadarnleoedd, a sut ddyfodol sydd ganddi.

“Yng Ngwynedd, mae yna nifer o ardaloedd lle mae’r plant sy’n dod o gartrefi Cymraeg, yn y lleiafrif yn yr ysgol – yn Bangor, yn fwy na nunlle – ynghyd ag arfordir Meirionnydd, a llefydd eraill fel Abersoch a Beddgelert,” meddai.

“Felly hefyd ym Môn, lle nad ydi’r ardaloedd arfordirol bellach yn rhai Cymraeg eu hiaith, gyda’r plant sy’n dod o gartrefi Cymraeg yn y mwyafrif mewn ysgolion tua chanol yr ynys yn unig. Mae plant sy’n dod o gartrefi Cymraeg hefyd yn y mwyafrif yn ardaloedd mwyaf gwledig sir Conwy. Ond sut mae hi ar yr ardaloedd hyn?”

Y newyddion drwg… 

* Er bod prif drefi Cymraeg y tair sir – Blaenau Ffestiniog, Caernarfon a Llangefni – yn dal eu tir, “does yna ddim llawer o achos dathlu”, meddai www.politicsbyrebuttal.blogspot.co.uk;

* Er bod 64% o blant ysgol Cricieth yn siarad Cymraeg gartref yn 2004, mae’r ganran wedi cwympo i 42% erbyn 2017;

* Mae yna ddirywiad wedi bod yn sefyllfa iaith disgyblion Beddgelert hefyd – mae nifer y plant o gartrefi Cymraeg wedi cwympo o 50% yn 2005, i dan 10% eleni;

* Ond mae’r sefyllfa’n waeth yn Dolbenmaen, lle mae canran y disgyblion o gartrefi Cymraeg wedi mynd o 77.5% i 52.3%, a hynny yn y pedair blynedd diwethaf (ers 2013);

* Mae canran plant o gartrefi Cymraeg yn nhref Y Bala wedi syrthio o 60% i 49% ers 2013;

* Yn Nyffryn Ogwen – yn ysgolion Rhiwlas a Thregarth yn benodol – mae nifer y plant o gartrefi Cymraeg wedi haneru bron mewn deng mlynedd – o 50% i 26.8%;

* Yn Llanberis yn 2013, roedd 69% o’r plant yn siarad Cymraeg gartref; ond mae’r ganran wedi cwympo i 51% mewn dim ond pedair blynedd;

* Yn nhref Pwllheli, lle’r oedd 61% o’r disgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg yn 2013, fe allen nhw fod yn y lleiafrif yn yr ysgol o fewn y deng mlynedd nesaf, meddai www.politicsbyrebuttal.blogspot.co.uk;

Rhoi’r gorau i’r hunan-dwyll

Mae angen i ni roi’r gorau i dwyllo’n hunain ynglyn â sefyllfa’r Gymraeg yn y Fro, meddai’r blogiwr, wrth ymateb i’w ymchwil ei hun.

“Mae’r modd y mae’r Fro Gymraeg yn dirywio ar y fath gyflymder, yn hollol annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain,” meddai.

“Does yna’r un iaith leiafrifol arall yn Ewrop, nac yn y byd petai’n dod i hynny, a fyddai’n fodlon derbyn y fath sefyllfa. Pe bai’r ardaloedd Swedeg eu hiaith yn y Ffindir, neu’r ardaloedd Hwngaraidd yn Romania, yn cael eu colli fel hyn, fe fyddai’r byd yn gwybod am y peth…

“Mae angen cymunedau arnon ni sydd yn siarad Cymraeg, nid unigolion yma ac acw sydd yn medru’r iaith. Er mwyn i’r Gymraeg fod yn iaith fyw, mae angen tiriogaeth arni.

“Am y rheswm hwnnw, mae goroesiad y Fro Gymraeg yn mynd i fod y gwahaniaeth rhwng cael iaith fyw, neu iaith sy’n ddim ond pwnc yn yr ysgol,” meddai’r blogiwr wedyn.

“A gofynnwch hyn i chi’ch hunain – os ydi’r iaith yn cyrraedd man lle nad ydi hi i’w chlywed ar fuarth yr ysgol, a fedrwch chi mewn gwirionedd ei galw hi’n iaith fyw? Hyd yn oed os bydd ganddi filiwn o siaradwyr erbyn 2050?”