Kees Huysmans yn cael y wisg wen eleni
Mae canwr a gwr busnes a ddaeth i fyw i Geredigion 30 mlynedd yn ôl, wedi diolch i Gymru am roi croeso a chyfle i bawb.

Pan ddaeth Kees Huysmans i ffermio i ardal Tregroes yn yr 1980au, doedd o ddim yn gwybod fod ganddo lais canu.

Ond, wrth iddo fynd ati i ddysgu Cymraeg ac ymuno â chôr meibion, fe ddechreuodd ar daith a welodd y baswr yn ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016.

A neithiwr (nos Sul, Awst 27) roedd yr Iseldirwr yn llywyddu noson Llais Llwyfan, Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan – cystadleuaeth arbennig ar gyfer cantorion dan 25 oed.

“Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i’n gallu canu pan ddes i i Gymru dros 30 mlynedd yn ôl,” meddai. “Ond fe ddes i i ddeall fod gen i lais.

“A dyna pam wy’n diolch am y croeso ges i, achos mae Cymru yn rhoi croeso i bawb… ac mae hynny’n beth da.

“Mae cantorion di-Gymraeg yn gallu cystadlu am y gwobrau mawr yma heno yn Llanbed, dim ond iddyn nhw ddewis un gân Gymraeg i’w chanu – ac mae hynny’n iawn.

“Mae’r ardal hon, ac mae Cymru, wedi rhoi croeso i mi, a dyna pam dw i’n teimlo fy mod i adre’.”

Fe ddechreuodd Kees Huysmans gynhyrchu waffls er mwyn gwneud ychydig o arian ychwanegol. Bellach, mae ei gwmni, Waffls Tregroes, yn enwog ledled y byd ac yn cynhyrchu 4,000 o waffls bob awr.